Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Deng mlynedd o lwyddiant - busnesau yn dod ynghyd i ddathlu GO Wales ym Mhrifysgol Bangor

Enillwyr a staff a fu'n dathlu 10ed penblwydd GO Wales.Enillwyr a staff a fu'n dathlu 10ed penblwydd GO Wales.Daeth dros hanner cant o fusnesau o bob rhan o ogledd orllewin Cymru at ei gilydd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf i ddathlu degfed pen-blwydd GO Wales, y project cymorth busnes a chyflogadwyedd.  Daeth nifer o asiantaethau cymorth i fusnes o bob rhan o'r rhanbarth i'r digwyddiad hefyd, yn ogystal â chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor sydd i gyd wedi rhoi cefnogaeth barhaus i'r rhaglen yn ystod y ddegawd ddiwethaf.   

Mae project GO Wales yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i gael profiad gwaith ac yn galluogi cwmnïau lleol i ddefnyddio sgiliau lefel uwch myfyrwyr a graddedigion trwy amrywiaeth o fentrau profiad gwaith sy'n aml yn arwain at swyddi parhaol i'r unigolion.

Cyllidir y project gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chaiff ei weithredu gan bob prifysgol yng Nghymru. Mae'r tîm ym Mhrifysgol Bangor wedi trefnu 560 o leoliadau gwaith o safon uchel i raddedigion gyda busnesau lleol, dros 400 o gyfnodau blasu gwaith ac wedi cymeradwyo 170 o geisiadau am gyllid i gefnogi datblygu sgiliau graddedigion mewn busnesau lleol.

Meddai Becky Ryan, Rheolwr Profiad Gwaith GO Wales ym Mhrifysgol Bangor,  "Gyda'r ffioedd dysgu a'r problemau cyffredinol mewn cael hyd i waith, rhoddir pwysau cynyddol ar fyfyrwyr a graddedigion i sefyll allan yn y dorf felly mae rhaglen fel GO Wales yn bwysig o ran rhoi fframwaith i gefnogi'r unigolion hyn wrth iddynt gymryd y cam cyntaf yn eu gyrfaoedd". 

Ychwanegodd Chris Little, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor, "Mae project GO Wales Prifysgol Bangor yn bendant wedi cael effaith ar fusnesau lleol yn y rhanbarth ac mae hyn wedi rhoi hwb i'r economi leol ac i raddedigion yn yr ardal sy'n cymryd y camau cyntaf ar eu llwybr gyrfaol." 

Yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Bangor a agorodd y digwyddiad gan ddweud,

"Mae GO Wales yn rhaglen hynod o effeithiol sy'n gallu rhoi budd amlwg i fyfyrwyr, cyflogwyr lleol a’r brifysgol. Mae'r rhaglen wedi ein galluogi i wella cyflogadwyedd llawer o'n graddedigion ac ar yr un pryd mae busnesau lleol wedi gallu cael sgiliau newydd a rhagor o staff. Mae’r ddau lwyddiant yn ganlyniadau pwysig i'r brifysgol".

 

Cyflwynodd David Lea-Wilson, Cyfarwyddwr Halen Môn, bedair gwobr i fusnesau bach yng ngogledd orllewin Cymru sydd wedi dangos ymroddiad i gefnogi a datblygu graddedigion yn y rhanbarth yn ystod y ddegawd ddiwethaf,  

  • Y cyfraniad mwyaf nodedig i brofiad gwaith - Sw Mynydd Cymru
  • Darparwr newydd gorau profiad gwaith - COFNOD
  • Yr ymroddiad mwyaf nodedig i broject GO Wales - View Creative
  • Gwobr Canolfan Sgiliau CADARN am ddatblygu sgiliau graddedigion - Outlook Expeditions

Wrth dderbyn ei gwobr, meddai Sue Colemant, Swyddog Addysg Sw Mynydd Cymru,

"Roedd yn fuddiol iawn cael rhagor o help yn ystod y tymor prysur i gynllunio, paratoi a rhedeg rhaglen haf Diwrnodau'r Sŵolegwyr Ifanc i blant rhwng 8 a 12 oed." 

"Roedd cael Lauren, y myfyriwr graddedig, yn ein helpu i ryddhau aelodau eraill o'r staff i wneud gweithgareddau a digwyddiadau  na fyddai wedi bod yn bosibl hebddi.  Roedd hyn yn fuddiol iawn i'r gwaith o gynnal ein rhaglen".

Design Agency View Creative sydd wedi elwa mwyaf o gefnogaeth y rhaglen yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf. Meddai Simon Cotton, Cyfarwyddwr View Creative, 

“Roedd yn bleser gennym allu cynnig sawl lleoliad i raddedigion.  Rydym wedi elwa o gael myfyrwyr o safon uchel gyda graddau rhagorol ac yn bwysicach na dim, syniadau newydd.   Fel busnes bach yng Nghymru roeddem yn credu ei fod yn bwysig ein bod yn gallu cynnig profiad gwaith hollbwysig i raddedigion lleol, gan eu helpu i fynd i'r byd gwaith ar ôl astudio." 

"Cawsom rhai graddedigion galluog iawn a oedd yn awyddus i ddysgu a datblygu eu sgiliau yn y gwaith.  Roedd yn bleser gennym allu cynnig contractau cyflogaeth parhaol o ganlyniad i'r lleoliadau".

Yn y llun ond nid yn nhrefn chwith-dde mae'r enillwyr: Simon Cotton - View Creative, Roy Tapping - Cofnod, Sue Coleman- Sw Mynydd Cymru a Claire Hitchins - Outlook Expeditions.  Tîm GO Wales Bangor:  Becky Ryan, Lis Owen, Elinor Churchill, David Pritchard, Tess Cameron, Mererid Gordon and Lydia Richardson a Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: Chris Little, a siaradwyr a cyflwynwyr: David Lea Wilson- Halen Mon, a  Bryn Jones a Katie Thomas o Ganolfan Sgiliau Cadarn.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor