Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Duffy'n ymuno â'r Brifysgol i ddathlu llwyddiant myfyrwyr

DuffyDuffyBydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn deuddeg seremoni, i’w cynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (9-15 Gorffennaf 2011). Bydd  teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant.

Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sy’n derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.

"Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad cryf o gydnabod cyraeddiadau dynion a merched o feysydd gwahanol drwy gyflwyno Cymrodoriaethau er Anrhydedd.  Mae’r un yn wir eleni. Bydd ein Cymrodyr yn cyfrannu arbenigrwydd a chyfaredd at y seremonïau, tra byddwn hefyd yn cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr," meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol.

Dyma fanylion y rhai sydd i’w hanrhydeddu:
Wedi graddio  o Fangor, mae Paul Feeney bellach yn strategydd buddsoddi rhyngwladol blaenllaw gyda BNY Mellon Asset Management. Bydd yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaeth i’r diwydiant gwasanaethau ariannol. Bydd yr Athro Phil Molyneux, Pennaeth y Coleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith yn ei gyflwyno.

Mae’r gantores, Duffy i’w derbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaethau i gerddoriaeth.  Enillodd Duffy Wobr Grammy am yr albwm lleisiol pop orau a thair gwobr Brit yn 2009.  Hi yw’r gantores gyntaf o Gymru i gyrraedd rhif un yn y siartiau mewn 25 mlynedd. Aeth ei halbwm cyntaf Rockferry i rif un yn siartiau albwm Prydain yn 2008 gan werthu 1.7 miliwn o gopïau. Mae wedi ymddangos yn ei ffilm gyntaf, Patagonia, yn ddiweddar. Ganwyd a magwyd Duffy yn Nefyn, Gwynedd. Bydd yn cael ei chyflwyno dan Dr Llion Jones.

Mae Rhys Jones, MBE yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth a’r gymuned, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor yn y Brifysgol. Hyfforddodd Rhys Jones fel athro yn y Coleg Normal a bu’n athro cerddoriaeth a dirprwy bennaeth yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.  Mae’n adnabyddus fel athro a hyfforddwr, arweinydd, cyfeilydd a darlledwr.  Mae wedi sefydlu ac arwain sawl côr a pharti, yn enwedig Cantorion Gwalia a fu’n enwog drwy Gymru o’r 50au hyd y 90au. Dyma’r to cyntaf  y bydd tad a merch yn ddeiliaid Cymrodoriaethau er Anrhydedd, gan fod ei ferch, Caryl Parry Jones, eisoes yn Gymrawd i’r Brifysgol.

Bydd Yr Athro Laura McAllister, Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl, ac awdurdod blaenllaw ar wleidyddiaeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i’w derbyn fel Cymrawd er Anrhydedd gan Dr Nichola Callow o’r Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.  Mae’r Athro McAllister yn cael ei derbyn am wasanaeth i chwaraeon. Mae Laura McAllister hefyd yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol i Gymru (24 o gapiau) ac yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac yn ymgynghorydd allanol i’r Brifysgol ar ei Strategaeth Chwaraeon a Hamdden.


Yr Athro Gwyn ThomasYr Athro Gwyn ThomasYn gyn fyfyriwr a chyn Athro Cymraeg yn y Brifysgol, bardd a beirniad llenyddol , bydd Yr Athro Gwyn Thomas yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i lenyddiaeth Cymru ac yn cael ei gyflwyno gan Bennaeth presennol Ysgol y Gymraeg, Yr Athro Peredur Lynch. Mae’r Athro Gwyn Thomas yn adnabyddus fel bardd a beirniad llenyddol a bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2006/7.

Bydd John Herbert, Iarll Powis,  yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am ei wasanaeth i ysgolheictod ac astudiaethau llenyddol, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Yr Athro Helen Wilcox o Ysgol y Saesneg.  Mae Iarll Powis yn un o ddisgynyddion George Herbert, bardd a aned yng Nghymru, ac sy’n enwog am ei fugeilgerddi a barddoniaeth grefyddol o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae hefyd yn un o ddisgynyddion llywydd cyntaf Prifysgol Bangor. Mae’n gyn-ddarlithydd ac ymchwilydd prifysgol, ac wedi gweithio’n helaeth gydag academyddion yn Ysgol y Saesneg y Brifysgol.

Julian Lewis JonesJulian Lewis JonesJulian Lewis Jones: Bydd yr actor ffilm a theledu a aned ar Ynys Môn yn cael ei dderbyn fel Cymrawd er Anrhydedd am wasanaeth i ddrama. Mae wedi actio yn ffilm 2008 Clint Eastwood, Invictus, ac mewn amryw o ddramâu teledu, yn cynnwys The Bill, Casualty, Holby City a Spooks - yn ogystal â’r gyfres Caerdydd a’r gyfres Tipyn o Stâd ar S4C.

Côr yn helpu’r Brifysgol i ddathlu canmlwyddiant

Bydd un o Gorau Meibion hynaf y wlad, Côr y Penrhyn, yn ymuno â staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddathlu canmlwyddiant agor Prif Adeilad y Brifysgol. Bydd yn ganrif i’r diwrnod ers i Frenin Siôr V agor yr adeilad newydd trawiadol sy’n eistedd ar ael y bryn uwchben dinas Bangor.  Fore Iau, 14 Gorffennaf, bydd Côr y Penrhyn yn rhoi perfformiad arbennig yn ystod seremoni raddio, lle bydd dros 200 o fyfyrwyr yn graddio.

Meddai Cofrestrydd Prifysgol Bangor, Dr David Roberts:

“Mae’r cyswllt rhwng chwarelwyr gogledd orllewin Cymru a sefydlu prifysgol ym Mangor yn un o’r nodweddion mawreddog ac ysbrydoledig yn hanes y Brifysgol.   Cyfrannodd chwarelwyr Bethesda a nifer o weithwyr eraill o ogledd Cymru, yn aml o’u cyflog prin, er mwyn cefnogi ymgyrch i gael addysg uwch yng ngogledd Cymru, ac mae’n briodol felly bod Côr y Penrhyn am ein helpu i ddathlu’r canmlwyddiant penodol yma.”

 Bydd Côr y Penrhyn yn perfformio tri darn yn ystod y Seremoni:

  • Y Bryniau Melynion gan Gareth Glyn (geiriau gan Ieuan Wyn)
  • Benedictus gan Robat Arwyn
  • Gwahoddiad, trefniant gan John Tudor Davies

Arweinydd Côr y Penrhyn yw Owain Arwel Davies, sy’n hanu o Ddyffryn Ogwen, ac a raddiodd o Brifysgol Bangor, sydd bellach yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Tryfan, Bangor. Y gyfeilyddes fydd Olwen John, brodor o Ynys Môn, a chyn fyfyrwraig Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd.

Hefyd yn ystod y seremonïau graddio bydd pedwar aelod o staff dysgu’r Brifysgol yn derbyn Cymrodoriaethau Dysgu. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i ddarlithydd sy’n amlwg wedi cyfrannu'n fawr at addysgu myfyrwyr a gofalu amdanynt.

Mae staff yn cael eu henwebu gan aelodau staff a myfyrwyr.

Yn derbyn y Cymrodoriaethau eleni mae: Mrs Anne McLaren, Ysgol y Gyfraith, Dr Rosanna Robinson, Ysgol Gwyddorau Biolegol a Dr Jim Bennell Ysgol Gwyddorau Eigion a Dr Fay Short, Ysgol Seicoleg.

Bydd straeon am ein myfyrwyr sy’n graddio yn ymddangos yma yn ystod yr wythnos:
http://www.bangor.ac.uk/studentlife/news/grad_2011.php.cy

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2011

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor