Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Rhesymau dros astudio yn lleol
      • Bangor a'r Ardal

    Dyddiau Agored Clirio

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dyfarnu Medalau Cwmni’r Brethynwyr i ddwy fyfyrwraig eithriadol

Rosie Poynor yn derbyn ei medal gan Meistr y Brethynwyr  y Fonesig Victoria Diana Leatham,DLRosie Poynor yn derbyn ei medal gan Meistr y Brethynwyr y Fonesig Victoria Diana Leatham,DLMae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar.

Dyfarnwyd y medalau gan Gwmni’r Brethynwyr, un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol.  Dyrniad o fedalau sy’n cael eu rhoi bob blwyddyn. Mae’r medalau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr eithriadol, yn seiliedig ar gyrhaeddiad academaidd ac ymwneud â’r gymuned academaidd o fewn y brifysgol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfraniad diwylliannol a chymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora.

Derbyniodd Rosie Poynor,  myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Fedal Arian am ei gwaith academaidd ac am ei chyfraniad at addysg ei chyd fyfyrwyr. Mae disgwyl i’w gwaith ymchwil effeithio ar berfformiad chwaraeon drwy wella addysg hyfforddwyr a pherfformiad.

Mae Rosie ym mlwyddyn olaf ei doethuriaeth- sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Chwaraeon Cymru.  Mae’r ymchwil yn broject cymhwysol heriol ym maes newid ymddygiad hyfforddwyr. Bydd ymdriniaeth arloesol Rosie’n darparu model ymarfer gorau ar gyfer yr holl faes. Mae disgwyl i’r gwaith gael  effaith sylweddol ar drylwyredd ymchwil ymyriad ym maes chwaraeon ac ymarfer a gwella ansawdd addysg hyfforddwyr yn y dyfodol.

Mae’r project PhD  wedi ei gyflwyno mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Gomisiwn Ewropeaidd Addysg Gyffredinol fel esiampl o ymarfer gorau wrth  drosglwyddo gwybodaeth o brifysgol i gorff allanol. Mae Rosie hefyd wedi datblygu cwrs dysgu ar-lein sydd ar gael i hyfforddwyr chwaraeon ar draws y byd ac wedi cyflwyno’i gwaith ymchwil mewn sawl cynhadledd ryngwladol.

Yn ogystal â hyn, mae Rosie wedi gwneud cyfraniad neilltuol i’r Brifysgol drwy gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir gan  fyfyrwyr ôl-radd.

 Mae Rosie’n aelod ymrwymedig a gweithgar o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yr Ysgol,  sef y grŵp ymchwil gorau ar draws y byd ym maes perfformiad elît. Mae Rosie’n cydweithio’n annibynnol efo aelodau ymchwil ôl-radd eraill ar ymchwil ychwanegol tu allan i faes ei doethuriaeth. Mae gweithredu annibynnol o’r fath yn dyst i alluoedd Rosie fel myfyrwraig PhD.

Mae Rosie hefyd yn cydlynu modiwlau, yn darlithio ac yn goruchwylio projectau, gan roi addysg a chefnogaeth o safon arbennig  i’r myfyrwyr y mae hi’n gweithio a hwy. Mae ei gwaith ymgynghorol ym meysydd seicoleg chwaraeon ac ymchwil ymyriad efo hyfforddwyr ac athletwyr elît ac iau yng Nghymru ac ar draws y DU a thramor ynddo’i hun yn profi ei bod yn llysgennad arbennig iawn dros y brifysgol. Ers deunaw mis mae wedi gweithio fel ymgynghorydd seicoleg chwaraeon gwirfoddol efo Academi a thîm o dan 18 Rygbi Gogledd Cymru . Cyfrannodd ei gwaith at sefydlu partneriaeth rhwng y Brifysgol a’r clwb rygbi, sydd yn fodd i gadw athletwyr o safon uchel yng ngogledd Cymru. Ffurfiodd Rosie Grŵp Ymarfer Cymhwysol ar gyfer datblygu Ymarferwyr Seicoleg Chwaraeon yng Ngogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin.  Hi sy’n cyfarwyddo’r grŵp, sydd yn cyfarfod dros ddau ddiwrnod ddwy neu deirgwaith y flwyddyn,  a hyn eto’n fodd i godi proffil y Brifysgol ym maes ymgynghori ac ymchwil seicoleg chwaraeon.

Meddai  Dr Nichola Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: “Mae Rosie  yn gynrychiolydd gwych i’r ysgol trwy ei gwaith efo hyfforddwyr ar draws Cymru a’i gwaith ymgynghorol seicoleg chwaraeon efo nifer o athletwyr elît. Mae hi’n fyfyrwraig eithriadol ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda hi a’i goruchwylio. Rydym yn falch iawn o’i llwyddiant hyd yn hyn, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael bod yn dyst i ragor o lwyddiant yn y blynyddoedd sydd i ddod.” 

Dyfarnwyd Medal  Efydd Cwmni’r Brethynwyr i Helen Glanville o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Yn ddiweddar mae Helen wedi ennill ei doethuriaeth ym maes gwyddor amgylcheddol. Mae gwaith Helen wedi cyfrannu ’n sylweddol at ein dealltwriaeth o sut y bydd tirweddau, a chefn gwlad amaethyddol Cymru’n benodol, yn ymateb i newid hinsawdd.

A hithau wedi  graddio mewn daeareg o Brifysgol Birmingham ac yna wedi gweithio yn y diwydiant olew a nwy cyn treulio cyfnod yn gweithio fel athrawes yn Ne Korea, penderfynodd Helen fynd i astudio wedyn ym Mhrifysgol Bangor.

Mae gwaith academaidd Helen wedi bod o’r safon uchaf a dangosodd yn fuan iawn fod ganddi ddawn naturiol at ymchwil. Cafodd pum papur ymchwil ganddi eu cyhoeddi mewn cylchgronau ymchwil rhyngwladol a bu’n darlithio ar ei gwaith mor bell ag Awstralia.  Tra’n astudio, cafodd y cyfle i ymweld â chylch yr Arctig i astudio newid hinsawdd mewn man lle gwelir yr effaith fwyaf. Roedd wrth ei bodd efo’r profiad ac mae hi’n gobeithio teithio i’r pegwn arall i gael profiad cyflawn.

Helen Glanville yn derbyn ei medal gan Meistr y Brethynwyr  y Fonesig Victoria Diana Leatham,DLHelen Glanville yn derbyn ei medal gan Meistr y Brethynwyr y Fonesig Victoria Diana Leatham,DLMae Helen wedi bod  yn gefn i lawer o fyfyrwyr doethurol eraill, yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad gwerthfawr iddynt yn eu hastudiaethau.  Ar ddechrau ei hastudiaethau, trefnodd Helen ‘Grŵp Monitro Nwyon Tŷ-Gwydr’ er mwyn galluogi staff a myfyrwyr y Brifysgol ynghyd â staff Canolfan Ecoleg a Hydroleg Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, sydd hefyd ar safle’r Brifysgol, i gyd-drafod profiadau am y ffyrdd orau a gwaethaf o fesur allyriadau CO2 a methan yn y pridd. Mae hefyd wedi cymryd arni hi hun i drefnu gweithgareddau cymdeithasol trwy gydol ei doethuriaeth gan  wneud y tîm yn uned glos.

A hithau efo profiad dysgu blaenorol, mae Helen hefyd wedi cyfrannu at ddysgu myfyrwyr israddedig,  er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, gan ddarparu profiad o safon uchel i’r myfyrwyr. Bu  Helen hefyd yn darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer y daith maes i fyfyrwyr israddedig i Tenerife.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Myfyrwyr): “Mae Helen  i weld yn un o’r bobl brin hynny a all gadw ei synnwyr digrifwch ar adegau anodd ac sydd wastad yn barod i roi cymorth i eraill pan fyddant mewn angen. Mae hi’n gaffaeliad i’r brifysgol ac mae’r fedal yn wobr haeddiannol am ei hymdrechion.”

Mae  dros ganrif o gyswllt wedi bod rhwng Cwmni’r Brethynwyr a’r brifysgol, ar y cychwyn drwy grantiau sylweddol y cwmni tuag at adeiladu’r prif adeilad, gan gynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a’r adran peirianneg electronig. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cefnogi myfyrwyr israddedig ac ôl-radd mewn sawl ysgol a chyfadran, ac yn cyfrannu ar Gronfa Caledi Ôl-radd sydd yn darparu rhywfaint o gymorth tuag at gostau byw unigolion.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor