Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ffrydio – yr ateb i'r cwymp yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg

Yn ôl ymchwil a wnaed  ar y cyd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ac Ysgol Busnes Bangor, ffrydio yw'r ateb os yw cwmnïau recordiau'n mynd i atal a gwrthdroi'r gostyngiad a welir yng ngwerthiant cerddoriaeth Gymraeg.

Bydd yr ymchwil, a wnaed mewn cydweithrediad â Recordiau Sain Cyf, yn arwain at lansio gwasanaeth lawrlwytho a ffrydio rhyngwladol newydd i gerddoriaeth Gymraeg.

Mae Steffan Thomas, a wnaeth yr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud â chynulleidfa ryngwladol ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn gwerthu cerddoriaeth Gymraeg tu hwnt i ffiniau'r wlad.  

"Roedd yn gyfle i gymryd cam yn ôl oddi wrth y diwydiant cerddoriaeth er mwyn edrych o'r newydd ar y ffordd y gall defnyddwyr a chynhyrchwyr gydweithio er mwyn creu dyfodol cynaliadwy ac atal y dirywiad," meddai.

"Wrth drafod cerddoriaeth a'r diwydiant cyfryngau ehangach, cyfeirir yn aml at bethau 'digidol'; fodd bynnag, mae'n werth nodi mai gwerthu cryno ddisgiau yw 60% o werthiant yr holl ddiwydiant cerddoriaeth ar hyn o bryd.

"Mae lawrlwytho'n mynd yn llai poblogaidd gyda gwasanaethau ffrydio ar gynnydd.  Fodd bynnag, mae ffrydio'n dal yn her i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr.  

"Nid yw ffrydio bob amser yn rhoi gwerth am arian i ddefnyddwyr ac, i gynhyrchwyr, nid yw'r elw o ffrydio'n ddigonol i gefnogi'r broses gynhyrchu."

Nod yr ymchwil oedd canfod llwybr i ddosbarthu cerddoriaeth sy'n rhoi'r nwyddau a'r gwasanaeth y maent eu heisiau i ddefnyddwyr, tra'r un pryd roi'r elw y mae arnynt ei angen i'r cynhyrchwyr.  

Trwy gyllid KESS cafodd Steffan Thomas a Sain y gefnogaeth oedd ei hangen i wneud yr ymchwil a gwneud newidiadau i gefnogi twf a datblygiad y busnesau.  

Meddai Dafydd Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Sain:  "Mae angen i bob cwmni wneud ymchwil a datblygu er mwyn addasu ei nwyddau a'i ddulliau marchnata a gwerthu ar gyfer anghenion cwsmeriaid.  
"Fe wnaeth ffurfio partneriaeth â Phrifysgol Bangor trwy KESS ein galluogi i gynllunio ac addasu i wynebu'r newidiadau technolegol cyflym sy'n digwydd yn y diwydiant cerddoriaeth.   
"O wybod bod gennym adnoddau'r Brifysgol y tu ôl i ni, rhoddodd hynny'r hyder i ni weithredu ar ddarganfyddiadau'r ymchwil."
O ganlyniad i'r ymchwil mae Sain yn awr yng nghamau datblygu rhaglen ffrydio newydd i ddarparu'r gwasanaeth a'r nwyddau y mae eu cwsmeriaid yn galw amdanynt, a hynny am bris y maent yn fodlon ei dalu. Bydd hyn yn arwain at broses fusnes gynaliadwy.

Hefyd ceir App newydd i farchnata nwyddau newydd a digwyddiadau.  Mae ymchwil ymhlith defnyddwyr wedi dangos bod 34.7% o ddefnyddwyr Sain naill ai'n ffrydio cerddoriaeth ar hyn o bryd neu eisiau gwneud hynny, sy'n dangos bod hon yn farchnad gynyddol i gerddoriaeth Gymraeg neu Gymreig.  

Meddai Steffan Thomas: "Mae KESS wedi galluogi i mi weithio gyda chwmniau allanol ym maes dosbarthu a chydgrynhoi digidol, yn ogystal ag ymchwilio a rhannu gwybodaeth yn Ffrainc, America, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.   

"Mae Sain yn awr mewn sefyllfa i arwain y twf digidol mewn cerddoriaeth yng Nghymru."  

Cefnogwyd yr ymchwil gan Dr Eben Muse, Stephen Jones a Dr Gareth Griffiths o Brifysgol Bangor a Dafydd Roberts o Sain Cyf.

Cyllidir ysgoloriaeth ymchwil Steffan dan Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS). Mae KESS yn rhaglen Gydgyfeirio Ewropeaidd o bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. .  Fe'i cyllidir KESS yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, mae KESS yn cefnogi projectau ymchwil cydweithredol (Meistri Ymchwil a PhD), gyda phartneriaid allanol, wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd).  Mae elfennau’r Meistri Ymchwil a PhD wedi’u cyfuno â rhaglen hyfforddi mewn medrau uchel eu safon, gan arwain ar Gymhwyster Ôl-radd mewn Datblygu Sgiliau. Bydd KESS yn parhau tan 2014, ac yn darparu 400+ o leoedd PhD a Meistr ar draws Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor