Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Fideo feiral gan fyfyrwyr o Fangor

Cael shafio’u pennau ar gyfer achos da oedd y sbardun i ddau fyfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor greu fideo cerddoriaeth sydd bellach yn feiral ar y rhyngrwyd.

Erbyn hyn, mae fideo ‘The Changing Man’ gan Colonel Dax wedi ei wylio dros 160,000 o weithiau ar YouTube, ac wedi ennyn ymatebion a chefnogaeth gan bobl o bellafoedd Awstralia, America, Sbaen a nifer o wledydd eraill.

Yn syniad gwreiddiol gan Tom Hughes, mae’r fideo yn cynnwys tiwn fachog sy’n cael ei pherfformio ganddo ef a’i gyd-fyfyriwr ac aelod o’r band, Anna Silver, a fideo a ffilmiwyd dros gyfnod o flwyddyn ac sy’n croniclo gwallt y ddau yn ail-dyfu. Er mwyn cynhyrchu’r fideo, roedd gofyn i’r ddau neilltuo rhan o’u diwrnod ar gyfer ffilmio eu hunain yn meimio rhan o’r gân. Ar ôl gwau’r holl glipiau hanner eiliad ynghyd, mae’r fideo yn dangos y ddau yn canu wrth i’w gwallt dyfu’n raddol drwy gydol y gân.

Er bod y ddau fyfyriwr trydedd flwyddyn yn ystyried y fideo fel project amser hamdden, roedd astudio yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac yn arbennig felly y modiwl ar dechnoleg cerddoriaeth, wedi eu harfogi â’r sgiliau perthnasol er mwyn recordio eu cerddoriaeth.

Ton ac Anna y tu allan i'r Ysgol Gerdd.Tom ac Anna y tu allan i'r Ysgol Gerdd.Daeth Tom, 25 o Rhiwabon, i Brifysgol Bangor i astudio gyda storfa bersonol o ganeuon a luniwyd ganddo dros gyfnod o bum mlynedd ac y mae’n bwriadu eu recordio a’u ffilmio yn y dyfodol. Ei brif gymhelliad dros ddod i’r Brifysgol i astudio Cerddoriaeth oedd y cyfleoedd i ddatblygu ei grefftau cerddorol a thechnegol.

Mae Anna, 21 ac o Wavertree yn Lerpwl, yn bianydd nodedig sydd eisoes wedi cyrraedd Gradd 8, yn astudio perfformio a chyfansoddi fel rhan o’i gradd mewn Cerddoriaeth.

Wedi iddynt olygu’r fideo, gosododd y ddau y fersiwn derfynol ar eu sianel YouTube a’i gwylio’n cynnyddu fesul tipyn. Yna, ym mis Chwefror ac ar ôl cael ei rhannu ar wefan boblogaidd, dechreuodd nifer y gwylio lamu fesul mil.

“Roeddwn yn ffan cynnar o YouTube ac yn mwynhau gwylio a chreu fideos pan o’n i’n ieuengach – ac wedi gweld fideos o bobl oedd wedi tynnu llun o’u hunain bob diwrnod am flwyddyn a’u gwau yn un fideo. Ar ôl i ni gael shafio’n pennau ar gyfer achos da, nes i sylweddoli bod yma gyfle da i fanteisio ar hynny a chreu fideo,” meddai Tom.

“Dwi’n sgwennwr caneuon eitha brwd ac yn aml mi fydda i’n nodi neu recordio ryw alaw neu linell ar gyfer eu cynnwys mewn cân maes o law. Daeth y llinell gyntaf i mi ar ôl gwrando ar un o’r memos recorded ’na – ac yna mi ddaeth gweddill y gân mewn blociau o gyfansoddi drwy gydol y flwyddyn, wrth i ni recordio.”

“Mae’r gân yn ymwneud â hunaniaeth, a sut y mae pobl yn newid eu hunaniaeth hwythau er mwyn ceisio perthyn â phobl eraill a’r problemau a all godi yn sgil hynny,” meddai.

Meddai Anna: “’Dan ni wedi ein syfrdanu â pha mor sydyn mae diddordeb yn ein fideo ni wedi datblygu ac yn falch fod pobl yn ei fwynhau, er ei fod yn eitha gwahanol i’n cynnyrch arferol ni.”

Mae Tom eisoes wedi cynhyrchu albwm o’i ôl-gatalog dan yr enw Colonel Dax, gan berfformio ar ei ben ei hun yn amlach na pheidio, er bod y gân hon, The Changing Man, hefyd yn ymddangos ar yr albwm. Ffurfiodd fand yn benodol ar gyfer cynhyrchu’r albwm ac mae’n gobeithio y bydd ei brojectau yn y dyfodol yn fwy cydweithredol eu naws. Mae Tom yn chwarae’r allweddellau ac yn canu, tra bo Anna yn chwarae’r gitar fâs, yr allweddellau yn ogystal â chanu. Yn ymuno â nhw ar y llwyfan mae dau gitarydd, Billy Evans ac Alex Hunt, ill dau o Wrecsam.

Meddai Dr Owain Llwyd, tiwtor project blwyddyn olaf Tom: “Mae’r dyfalbarhad oedd ynghlwm â chreu rhywbeth o’r ansawdd yma yn anhygoel. Mae fideo Tom ac Anna wedi taro tant â nifer fawr o bobl ar draws y byd, gan ddangos grym y rhyngrwyd a symlrwydd eu bwriad creadigol. Mae hi hefyd yn diwn eithriadol o fachog!”

Meddai Eleri Brady, Rheolwr Codi Arian Macmillan ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd Powys:

“Mae’n beth gwych fod Tom ac Anna wedi shafio’u pennau fel rhan o ymgyrch Brave the Shave elusen Macmillan.

“Rydym wedi arfer â gweld lluniau ‘cyn ac ar ôl’ yn deillio o’r math yma o weithgareddau codi arian ond erioed wedi gweld cofnod o’r hyn a ddaw ar ôl y digwyddiad sydd mor greadigol a bachog a hyn.”

Mae Tom Hughes yn 25 a mynychodd Ruabon School. Fel rhan o’i broject blwyddyn olaf ar gyfer ei radd BMus, bydd yn cyfansoddi darn roc 25 munud o hyd. Dewisodd Tom astudio ym Mhrifysgol Bangor am mai yno oedd yr Ysgol Cerddoriaeth orau yn lleol i ardal Wrecsam. Mae hefyd yn hoffi closrwydd cymdeithas yr ardal.

Mae Anna yn 21 ac yn hanu o Wavertree yn Lerpwl. Mae’n gyn-ddisgybl ysgol Archbishop Blanch School. Mae’n cyfansoddi darn rhagarweiniol ar gyfer y piano fel rhan o broject blwyddyn olaf ei gradd BMus. Dewisodd astudio ym Mhrifysgol Bangor oherwydd cyfleusterau ardderchog a thiwtoriaid cyfeillgar yr Ysgol Cerddoriaeth a bod yr ardal yn wrthgyferbyniad o fywyd dinesig.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2017

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor