Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gradd ddwbl yn derbyn gwobr bwysig gan y Gymdeithas Cyfreithwyr Ffrengig-Brydeinig

Mae Prifysgol Bangor a Université Toulouse-Capitole wedi derbyn Gwobr Robertson-Horsington 2017 gan y Franco-British Lawyers Society (FBLS) am eu rhaglen gradd ddwbl: y Drwydded/Meistr 1 mewn Cyfraith Ryngwladol / LLB Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc.  

Chwith i dde: yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, a Dr Oana Andreea-Macovei o Brifysgol Toulouse-Capitole yn derbyn gwobr Robertson-Horsington gan Guy Canivet, Llywydd Cyntaf Anrhydeddus Cour de CassationChwith i dde: yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, a Dr Oana Andreea-Macovei o Brifysgol Toulouse-Capitole yn derbyn gwobr Robertson-Horsington gan Guy Canivet, Llywydd Cyntaf Anrhydeddus Cour de Cassation

Mae'r cwrs arloesol, rhyngwladol hwn sy'n rhoi gradd ddwbl yn y gyfraith yn cael ei gynnig mewn partneriaeth gan Toulouse-Capitole, Ffrainc a Phrifysgol Bangor. Caiff myfyrwyr gyfle i dreulio dwy flynedd yn astudio'r gyfraith yn y ddwy wlad, gan arwain at dderbyn gradd LLB Brydeinig a gradd Meistr I Ffrengig ar ôl pedair blynedd.

Derbyniwyd y Wobr ar ran y ddwy brifysgol gan Dr Oana-Andrea Macovei, o Ysgol y Gyfraith Ewropeaidd (ESL) Toulouse-Capitole, a'r Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Bangor, yn y Maison du Barreau (Pencadlys Bar Paris) ym Mharis ar 30 Mawrth 2017.

Cyflwynwyd y wobr gan Guy Canivet, Llywydd Cyntaf Anrhydeddus Cour de Cassation, ym mhresenoldeb dros 70 o aelodau a gwahoddedigion yr FBLS, yn cynnwys Jean Marc Sauvet, Is-lywydd y Conseil d'Etat; Ei Anrhydedd Llysgennad y Deyrnas Unedig i Ffrainc, Yr Arglwydd Llewellyn; Madame Sylvaine Peruzzetto, cyn Athro Cyfraith Fasnachol yn Toulouse ac yn awr yn Farnwr yn y Cour de Cassation ym Mharis; a Sir Robert Aitkens, gynt o Lys Apêl Lloegr a Chymru.

Teimlai Pwyllgor Academaidd yr FBLS ei bod yn arbennig o bwysig eleni i wobrwyo ac annog rhaglen newydd ragorol sy'n dangos ymrwymiad dwfn i hyrwyddo a datblygu'n llwyddiannus gysylltiadau a dealltwriaeth gyfreithiol rhwng Ffrainc a Phrydain. 

Meddai Cyfarwyddwr Academaidd yr FBLS, Dr Vivienne Forrest: "un o gryfderau amlwg y rhaglen, a ddaliodd sylw'r Pwyllgor, oedd y pwyslais y mae'n ei roi ar ddull cymharol cyfoethog iawn o ymdrin ag astudiaethau'r gyfraith, gyda hynny wedi'i gysylltu'n fedrus ag astudio a deall, mewn cyd-destun ehangach, ddiwylliannau a systemau cyfreithiol gwahanol Ffrainc a Phrydain."

Mae enillwyr blaenorol Gwobr Robertson-Horsington yn cynnwys  Université Paris 1 Panthéon-Sorbonne a King's College Llundain; Université Rennes 1 a Phrifysgol Exeter; a Phrifysgolion Paris X (Nanterre) ac Essex. 

Mae'r rhaglen radd ddwbl yn y gyfraith yn ehangu datblygiad deallusol myfyrwyr; yn eu galluogi i symud yn rhwydd rhwng meysydd Cyfraith Gyffredin a Chyfraith Sifil; yn rhoi enghraifft ragorol o addysg gyfreithiol ryngwladol; ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr megis interniaethau, cymryd rhan mewn ysgolion haf a ffug lysoedd barn. Yn ogystal, mae'r rhaglen hon yn awr yn rhan o gonsortiwm Ysgol Ewropeaidd Y Gyfraith, sydd ag 17 o aelodau ac sy'n hybu ei thwf a'i hyrwyddo. Chwith i dde yn y seremoni gwobrwyo: Simon Horsington, Bargyfreithiwr, 4-5 Grays Inns Square Chambers, Llundain; Dr Oana Andreea-Macovei; Vivienne Forest, Cyfarwyddwr Academaidd, Franco-British Lawyers Society; yr Athro Dermot Cahill; Guy CanivetChwith i dde yn y seremoni gwobrwyo: Simon Horsington, Bargyfreithiwr, 4-5 Grays Inns Square Chambers, Llundain; Dr Oana Andreea-Macovei; Vivienne Forest, Cyfarwyddwr Academaidd, Franco-British Lawyers Society; yr Athro Dermot Cahill; Guy Canivet

Meddai'r Athro Cahill wrth dalu teyrnged i Claudine Chambert, cyn Bennaeth y Swyddfa Ryngwladol yn Toulouse, a nawr yn Ysgrifennydd Cyffredinol Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith; a'r Athro (Barnwr bellach) Sylvaine Peruzzetto, a sefydlodd y rhaglen gyda'r Athro Dermot Cahill: "mae'r LLB mewn Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc / Meistr I mewn Cyfraith Ryngwladol yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae gan gwmnïau cyfreithiol mawr a sefydliadau rhyngwladol ddiddordeb mawr mewn graddedigion o'r rhaglen hon, oherwydd mae'r radd ddwbl ryngwladol hon yn y gyfraith yn cynhyrchu myfyrwyr a all symud yn rhwydd rhwng meysydd y Gyfraith Gyffredin a Chyfraith Sifil. 

"Rydym yn hynod falch bod y Franco-British Lawyers Society (FBLS) wedi dyfarnu Gwobr Robertson-Horsington 2017 i'r rhaglen, gan gydnabod bod y rhaglen radd hon yn enghraifft wych o gwrs gwirioneddol ryngwladol ym maes addysg gyfreithiol. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Ysgol Ewropeaidd y Gyfraith ym Mhrifysgol Toulouse-Capitole: rydym yn cydweithio drwy bob cam, o ddewis myfyrwyr yn y lle cyntaf, i gynnal a sicrhau perthnasedd y rhaglen. Mae datblygiad deallusol myfyrwyr ar y rhaglen, yn ogystal â'r profiad diwylliannol Ffrengig-Brydeinig y maent yn ei gael, yn arwain at gynhyrchu meddyliau chwim a ffrwythlon, sy'n gweld cyfleoedd newydd o'u blaenau na allai myfyrwyr cenedlaethau a fu ond breuddwydio amdanynt. 

"Mae treulio dwy flynedd ym mhob gwlad yn cynhyrchu meddwl cyfreithiol sydd wedi ymestyn ac aeddfedu i'r graddau lle mae galluoedd personol myfyrwyr y gyfraith yn cael eu ehangu a'u datblygu'n sylweddol iawn. Sefydlu'r rhaglen hon gyda Toulouse-Capitole mae'n debyg yw un o brojectau pwysicaf fy ngyrfa ac rwy'n gweld ei photensial fel arweiniad i addysg gyfreithiol ryngwladol arloesol yn y dyfodol."

Meddai'r Athro Wanda Mastor, Pennaeth Ysgol Ewropeaidd Y Gyfraith: "mae'r radd ddwbl LLB mewn Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc / Meistr I mewn Cyfraith Ryngwladol yn ffynnu, gan arwain at ddyfnhau'r berthynas rhwng y ddwy brifysgol. Mae hyn yn ymestyn bellach i lefel PhD yn ogystal, gyda myfyrwyr PhD o Fangor yn cymryd rhan yng ngweithdai PhD blynyddol yr ELS, ynghyd â myfyrwyr ymchwil o 16 aelod arall y rhwydwaith ELS. 

"Mae wedi bod yn bleser i ni weithio gyda Bangor. Mae dyfarnu Gwobr Robertson-Horsington 2017 i'r model hwn yn dangos y ffordd yn amlwg i fyfyrwyr uchelgeisiol sydd eisiau manteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae'r farchnad gyfreithiol ryngwladol yn eu cynnig. Mae ein myfyrwyr wrth eu bodd gyda'u cyfnod ym Mangor. Mae'r profiad Cymreig yn eu cyfoethogi a'u hysgogi'n ddeallusol - mae rhywbeth hudolus mewn dod o hyd i ysgol y gyfraith ffyniannus a rhyngwladol ei golygon ymysg mynyddoedd Cymru! Rydym yn hynod falch bod y rhaglen yn denu cymaint o geisiadau wrth i fyfyrwyr Ffrengig sylweddoli'n gynyddol bod angen iddynt weld y byd ehangach i wynebu'r dyfodol yn hyderus."

Yn y Cinio Gwobrwyo, meddai Dr Oana Macovei o Toulouse-Capitole: "mae Toulouse yn hynod falch o gael ei hanrhydeddu gyda'r Wobr yma. Rydym yn benderfynol o gynnig y cyfleoedd gorau i'n myfyrwyr, gan eu galluogi i fwrw ymlaen â'u haddysg a'u paratoi yn ystod eu dwy flynedd gyntaf yn Toulouse-Capitola i symud ymlaen i Brifysgol Bangor i gwblhau'r LLB mewn Cyfraith Lloegr a Chyfraith Ffrainc. Mae gradd ddwbl LLB/Meistr I Bangor-Toulouse yn galluogi i'n myfyrwyr gael y profiad gorau mewn Cyfraith Gyffredin a Sifil. Mae myfyrwyr a dderbynnir i'r rhaglen hon yn ddeinamig ac eangfrydig ac maent yn gweld dyfodol disglair o'u blaenau."

Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2017

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor