Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod â’r wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern

Disgyblion Ysgol Bodedern yn y Dosbarth: Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeDisgyblion Ysgol Bodedern yn y DosbarthMae Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB) ar Ynys Môn wedi cael ei dewis gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, i dderbyn Grant Partneriaeth. Hon yw ail grant o’i bath yn unig i ddod i Ogledd Cymru a bydd yn galluogi i wyddonwyr lleol o Brifysgol Bangor weithio gydag athrawon o’r ysgol i roi project gwyddonol arloesol ar waith.

Nod y project o’r enw Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew, yw cyflwyno i’r disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid môr mewn rhan o’r byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd. Bydd disgyblion o Flwyddyn 10, sydd rhwng pedair ar ddeg ac un ar bymtheg oed, yn wynebu’r her o lunio a phrofi damcaniaethau ynghylch newid hinsawdd, ac edrych sut y gellir defnyddio cymysgedd o dystiolaeth fiolegol a ffisegol ar amodau môr i asesu effeithiau ar bysgod rhew yr Antarctig a’r gymuned forol ehangach.  Bydd y bartneriaeth i ddechrau’n cynnwys arddangosiadau a gwaith labordy i ddisgyblion yn YUB, a dilynir hynny gan sgyrsiau a gwaith labordy ymarferol yn y Labordy Ecoleg Foleciwlaidd a Geneteg Pysgodfeydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor. Caiff gwaith gwyddonol ei ddarlledu’n uniongyrchol o’r Antarctig yn niwedd 2013, drwy ddefnyddio  podlediadau a chysylltiadau fideo, i wyddonwyr yn  King Edward Point, De Georgia.  Yna edrychir ar ffyrdd o lunio damcaniaethau a chasglu tystiolaeth yn ymwneud â newid hinsawdd drwy wahanol ddulliau gwyddonol. Er enghraifft, disgwylir i dymereddau uwch leihau goroesiad a dosbarthiad larfau pysgod mewn dyfroedd môr, oherwydd gall twf cyflymach achosi i bysgod ifanc lwgu i farwolaeth cyn iddynt gyrraedd y rhannau o’r môr lle byddant yn tyfu. Defnyddir offer genetig diweddaraf (math o ‘broffilio genetig’) a microsgopeg uwch i bennu oedran pysgod ifanc er mwyn archwilio tebygolrwydd a thystiolaeth dros effeithiau o’r fath dan amrediad o dymereddau dynwaredol.

Morfil cefngrwm - rhan o ecosystem yr Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeMorfil cefngrwm - rhan o ecosystem yr Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeYn dilyn y gweithgareddau hyn,  bydd disgyblion uwchradd o YUB yn defnyddio’r technegau a’r wybodaeth a gânt o’r bartneriaeth â’r Brifysgol i lunio ymarfer pontio i ddisgyblion Blwyddyn 6 (cynradd) o ysgolion cynradd lleol (yn cynnwys   Ysgol Gymuned Bryngwran,Ysgol Cylch Y Garn Llanrhyddlad, Ysgol y Ffridd Gwalchmai, Ysgol Gymuned Llannerchymedd, Ysgol Pencarnisiog, Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win Llanfaethlu, Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi) yn ystod tymor yr haf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad yng Ngŵyl Wyddoniaeth Bangor  ym  Mawrth 2013 . Mae partneriaid y project yn cynnwys y British Antarctic Survey, sydd â’i phencadlys yng Nghaergrawnt, sy’n datblygu modelau i ddeall dosbarthiad larfau pysgod rhew mewn perthynas ag amodau hinsoddol a morol. Gall rhagfynegiadau o fodelau o’r fath gael eu profi gan ddefnyddio tystiolaeth o’r astudiaethau genetig a heneiddio. Mae’r project yn cynnig cyfle i bobl ifanc gyfarfod â gwyddonwyr lleol a gweithio â hwy ac mae’n eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth wyddonol mewn ffordd sy’n gyffrous, yn wreiddiol a pherthnasol i’w bywydau. 

Meddai’r Athro John Pethica FRS, Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol, “Rydym yn falch o gael cefnogi’r project  Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew  yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project cyffrous yma’n dod yn fyw dros y misoedd i ddod.” 

“Mae gwyddoniaeth a pheirianneg yn bynciau cyffrous a deinamig a thrwy roi cyfle i athrawon gyflwyno gwyddoniaeth arloesol, ein gobaith yw y gallwn helpu i ddangos i bobl ifanc gymaint o hwyl y gall y pynciau hyn fod mewn bywyd go iawn, a’u hysbrydoli i ddod yn ddyfeiswyr, fforwyr ac arloeswyr y dyfodol.”   

Tirlun o'r Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeTirlun o'r Antarctig : Credyd Llun - Dr Mike Meredith BAS CambridgeBydd Yr Athro Gary Carvalho, Athro Ecoleg Foleciwlaidd, a  Dr Mark de Bruyn, gwyddonydd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio mewn partneriaeth â  Lyndell Williams Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern o Fedi 2012 tan Ebrill 2014. Wrth sôn sut y daeth i ymwneud â’r cynllun, dyma oedd gan yr Athro Carvalho i’w ddweud:   “Bydd ein project yn rhoi bywyd i’r hyn mae disgyblion yn ei ddysgu yn y dosbarth a’u helpu i ddeall effaith gwyddoniaeth ar eu gweithgareddau dyddiol. Trwy wneud y pynciau hyn yn berthnasol gallwn ddangos pa mor allweddol ydynt i’n bywydau.”

Meddai Mrs Anwen Morgan, pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern: “Fel ysgol rydym yn falch iawn o gael ymwneud â’r project yma ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Bangor." 

Dylai athrawon, gwyddonwyr, peirianwyr a phartneriaid o ddiwydiant sydd â diddordeb ymgeisio am Grant Partneriaeth ymweld â   www.royalsociety.org/education.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor