Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Rhesymau dros astudio yn lleol
      • Bangor a'r Ardal

    Dyddiau Agored Clirio

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Llwyddiant Ysgubol i Farchnad Nadolig y Myfyrwyr!

Llongyfarchiadau i Rebecca Smith a Becky Rigby am ennill y wobr am y stondinau gorau, a noddwyd gan dîm BEA. Dyfarnwyd gwerth £50 mewn tocynnau i’r ddau gyd-enillydd hyn gan y beirniaid, sef Mari Roberts o BEA a Chris Little, Pennaeth Gyrfaoedd.Llongyfarchiadau i Rebecca Smith a Becky Rigby am ennill y wobr am y stondinau gorau, a noddwyd gan dîm BEA. Dyfarnwyd gwerth £50 mewn tocynnau i’r ddau gyd-enillydd hyn gan y beirniaid, sef Mari Roberts o BEA a Chris Little, Pennaeth Gyrfaoedd.Cynhaliodd y tîm Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor ei bedwaredd Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol yn Neuadd PJ cyn y Nadolig.

Cymerodd rhyw 120 ran yn y gwaith o gynnal mwy na 60 o stondinau, a mwy na 1,700 o ymwelwyr yn dod draw yn ystod y diwrnod. Roedd rhai o’r myfyrwyr a gymerodd ran wedi cymryd rhan hefyd yn y gweithdai ategol ar ‘Sut i Brisio’ a ‘Sut i Werthu eich Nwyddau neu’ch Gwasanaeth’ a gynhaliwyd gan ddarlithydd a oedd wedi cael hyfforddiant yn Ysgol Adwerthu Mary Portas. Daeth hynny’n arbennig o amlwg wrth weld ansawdd uchel ac amrywiaeth y nwyddau a oedd ar werth, yn ogystal â’r modd y cyflwynwyd y nwyddau a ffordd y stondinwyr o ymwneud â’r ymwelwyr. Roedd y nwyddau a gynigiwyd yn cynnwys tlysau, nwyddau wedi’u gweu a’u crosio, bwydydd rhyngwladol, ffotograffau, paentiadau a phlanhigion, ac enwi ond ychydig. Roedd y trefnwyr yn arbennig o falch fod nifer o’r stondinau eleni â thema Gymreig, neu eu bod yn defnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, felly roedd y myfyrwyr wedi ystyried cynaladwyedd eu cynhyrchion yn ofalus. Roedd Ogof Siôn Corn yn bresennol unwaith eto, gan ddenu llawer o staff a myfyrwyr. Bydd stondinwyr wedi ennill 15 o bwyntiau xp BEA (Gwobr Cyflogadwyedd Bangor) am gynnal stondin, a mwy o bwyntiau trwy gymryd rhan yn y gweithdai ategol.

Meddai Katherine Browning, a oedd yn cynnal stondin dlysau: ‘Gwelsom lawer o bethau pert, gwerthu llawer o bethau pert, a rhoddais gynnig ar wneud pethau pert. Dwy ddim eto wedi cyfrif faint rydym wedi codi at Gymorth Canser Macmillan hyd yma, ond rwyf wrth fy modd yn rhannu fy hobi a’m hangerdd gyda chymaint o bobl.’ Meddai Cat Bullock, stondinwraig arall, ynglŷn â’r digwyddiad: ‘Roedd yn wych – yn lledaenu’r neges nid yn unig wrth fyfyrwyr, ond hefyd wrth y gymuned.’

Cafwyd cerddoriaeth fyw trwy gydol y prynhawn, oddi wrth Fand Pres Prifysgol Bangor a Chymdeithas Werin Prifysgol Bangor, a hynny’n ychwanegu at y naws lon. Roedd rholiau twrci a chnau pob a gwin poeth ar werth o ‘Bwyd@Bangor’.

Llongyfarchiadau i Rebecca Smith a Becky Rigby am ennill y wobr am y stondinau gorau, a noddwyd gan dîm BEA. Dyfarnwyd gwerth £50 mewn tocynnau i’r ddau gyd-enillydd hyn gan y beirniaid, sef Mari Roberts o BEA a Chris Little, Pennaeth Gyrfaoedd.

Rhoddodd llawer o’r stondinwyr rywfaint o’u helw i elusen. Mae’r elusennau sy’n mynd i elwa yn cynnwys Macmillan, Cymdeithas Dystonia, Cymdeithas Cyfeillion Ysbyty Gwynedd, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a llawer mwy.

Bu llawer o Glybiau a Chymdeithasau UM, yn cynnwys yr Undeb Athletau, y Gymdeithas Ddaearyddol, HogSoc a’r Gymdeithas Ffotograffiaeth, hefyd yn cynnal stondinau er mwyn codi arian at gyllideb eu cymdeithasau.

Mae rhai myfyrwyr sy’n gwerthu yn y farchnad eisoes yn cynnal eu busnesau eu hunain. Mae cefnogaeth ddilynol, ar ffurf mentora un i un a gweithdai, ar gael i’r holl stondinwyr ac i fyfyrwyr eraill, i ddatblygu syniad busnes trwy ei chynllun Byddwch Fentrus. Anfonwch e-bost at:

Ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r cyllid i gynnal y Farchnad, a hynny trwy Bartneriaeth Canolbwynt Rhanbarthol rhwng Prifysgol Bangor a Grŵp Menai Llandrillo, ac mae’n bleser gennym fod y ffair wedi cynnwys dwy stondin gan fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai a’u tiwtoriaid.

Hoffai tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a fu’n cynorthwyo yn ystod y dydd, yn cynnwys y cynorthwywyr o blith y myfyrwyr, tîm yr Ystadau am waith y tu ôl i’r llenni wrth helpu i osod y stondinau, Bwyd@Bangor am helpu gyda lluniaeth, tîm BEA am noddi’r stondin orau ac am gydnabod y gwerth i fyfyrwyr wrth ddyfarnu pwyntiau xp, Llywodraeth Cymru am ddarparu’r cyllid, ac yn anad dim i’r stondinwyr eu hunain o blith y myfyrwyr, am eu brwdfrydedd, am roi cymaint o ymdrech tuag at greu eu cynhyrchion, ac am fod yn fentrus!

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor