Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyriwr Ysgol y Gyfraith yn ennill achos llys CYN graddio

Mae gan fyfyrwraig o Brifysgol Bangor fwy i'w ddathlu na dim ond derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn Y Gyfraith.  Cafodd Alex Gibson, 36, o Abergwyngregyn brofiad enbyd a'i harweiniodd i gredu mai'r unig ffordd o'i hamddiffyn ei hun rhag gwahaniaethu ac aflonyddu yn y gweithle oedd astudio am radd yn Y Gyfraith. 

Gwnaeth Alex yn dda yn ei harholiadau TGAU a Lefel A ond, oherwydd ei bod yn ddyslecsig a chydag elfennau o ddyspracsia, nid yw addysg wedi bod yn hawdd iddi. 

Eglurodd Alex: "Er bod pawb yn gwybod mod i'n cael trafferthion, doedd yr un gefnogaeth ar gael i bobl ddyslecsig bryd hynny ag sydd yna nawr.  Mi wnes i addunedu na fyddwn i byth yn mynd yn ôl i addysg ac yn fy ugeiniau fe wnes i adeiladu gyrfa ym maes rheoli drwy waith caled ac ymroddiad.  Roeddwn yn rheoli gwestai yn yr Eidal pan oeddwn yn 24 oed ac wedi cyrraedd lefel Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol pan oeddwn yn ddeg ar hugain.  

"Penderfynais gymryd seibiant o fy ngyrfa yn 2008 ac euthum i deithio o amgylch De America. Roedd yn brofiad gwych nes i mi gael damwain ddifrifol ar feic mynydd.  Yn ogystal ag anafiadau eraill, torrais yr esgyrn yn fy mraich chwith yn ddrwg gan achosi anabledd corfforol parhaol.  

"Dychwelais i weithio yn 2010 ond yn fuan roeddwn yn dioddef oddi wrth wahaniaethu ac aflonyddu ar sail anabledd oherwydd fy anabledd corfforol a fy nyslecsia.   Roedd hwn yn gyfnod trawmatig i mi ac fe wnes benderfyniadau a fyddai'n newid fy mywyd.  Dewisais gael llawdriniaeth arloesol ar fy arddyrnau i geisio gwella golwg corfforol fy anabledd.  Hefyd penderfynais wneud cais i astudio am radd yn Y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu sut i amddiffyn fy hun ac i brofi i mi fy hun nad oedd fy nyslecsia'n effeithio ar fy neallusrwydd, gan fod fy nghyn gyflogwyr wedi fy mychanu gymaint. 

"Ar ôl i fy nyslecsia gael ei gadarnhau yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor, fe wnaethant argymell i mi gael cefnogaeth i hwyluso fy astudiaethau.  Roeddwn mor falch o weld gymaint o gefnogaeth oedd ar gael i fyfyrwyr anabl gan yr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr.

"Roedd y gefnogaeth o Ganolfan Dyslecsia Miles yn wirioneddol wych.  Pennwyd Liz Du Pre gan y ganolfan i roi cefnogaeth i mi.  Nid yn unig roedd yn prawf-ddarllen fy nhraethodau cyn i mi eu cyflwyno, fe wnaeth fy helpu hefyd i gyflawni'r hyn na feddyliais oedd yn bosibl: cael gradd yn y Gyfraith."

Er gwaethaf diffyg cymorth cyfreithiol yn y maes, aeth Alex â'i chyn gyflogwyr i'r llys gan ei bod yn benderfynol o gael cyfiawnder.  Bu Alex yn cynrychioli ei hun yn gyfreithiol am y ddwy flynedd a hanner diwethaf tra oedd yn astudio, ac yn ystod gwrandawiad a barodd am wyth diwrnod.  Llwyddodd yn y diwedd i ennill ei hachos ar sail gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail anabledd a daeth yr achos i ben yr wythnos ar ôl i ganlyniadau ei harholiadau terfynol gael eu cyhoeddi.  Dim ond 3% o achosion gwahaniaethu ar sail anabledd sy'n llwyddiannus mewn gwrandawiadau ar mae'r hawlwyr yn cael eu cynrychioli gan gyfreithwyr gan amlaf.

Meddai Alex: "Wrth edrych yn ôl ddylwn i ddim fod wedi cael y llawdriniaeth a dylai pobl fod wedi fy nerbyn fel roeddwn.  Efo help a chefnogaeth y ganolfan dyslecsia rydw i wedi cyflawni un o fy llwyddiannau mwyaf hyd yma - graddiais o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ar ôl dwy flynedd o astudio caled iawn.  

"Dydi dyslecsia ddim yn effeithio ar ddeallusrwydd ac erbyn hyn does yna ddim rhwystrau mewn gwirionedd i atal pobl ddyslecsig rhag mynd ymlaen efo'u haddysg.  Dwi'n credu'n gryf iawn bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol bwysig mewn cymdeithas heddiw.  Fe allwn ni gyflawni unrhyw beth efo'r gefnogaeth iawn."

Meddai Liz Du Pre o Ganolfan Dyslecsia Miles: "Mae'n rhaid edmygu Alex am ei phenderfyniad diwyro i ddod dros y sialensiau roedd yn eu hwynebu pan ddechreuodd ei gradd. Mae wedi gweithio'n eithriadol galed ac efo'r canlyniad rhagorol yma gall fynd ymlaen gyda hyder yn ei galluoedd."

Un o amcanion Alex yn y dyfodol yw gwneud cwrs hyfforddi i gyfreithwyr a gweithio ym maes y gyfraith a helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor