Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi at her LifeStart

Jenny Light-Hook yn profi offer Realiti Rhithwir gyda cynrychiolwyr LifeStart a Samsung.Jenny Light-Hook yn profi offer Realiti Rhithwir gyda cynrychiolwyr LifeStart a Samsung.Mae Prifysgol Bangor yn un o 12 prifysgol yn y DU i gymryd rhan yn LifeStart - platfform her newydd a ddatblygwyd gan Virgin Money a Virgin StartUp. Nod LifeStart yw helpu myfyrwyr i sicrhau llwyddiant gyrfaol trwy eu helpu i ddysgu sgiliau menter ac ariannol, trwy gymryd rhan mewn heriau a chael cyfle i ennill gwobrau ar y ffordd.

Yn yr her gyntaf, mae LifeStart wedi ymuno â Samsung ac yn gofyn i fyfyrwyr sut y gall Realiti Rhithwir wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd prifysgol.

Ymwelodd Paul Adams o LifeStart, ynghyd â Jason Mills o Samsung, â’r Brifysgol yn ddiweddar i gyflwyno’r  llwyfan newydd cyffrous hwn a'r heriau presennol i’r myfyrwyr. Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu sut i ddefnyddio realiti rhithwir a rhoi cynnig ar offer diweddaraf Samsung.

Yn yr ail her, mae angen i fyfyrwyr gynnig syniad o ap sy'n datrys problem arian myfyrwyr.

I gael cyfle i ennill gwobrau anhygoel, megis ffonau symudol Samsung ac offer realiti rhithiwr, neu brofiadau Virgin ac arian parod, mae'n rhaid i fyfyrwyr ddod o hyd i atebion sut i fynd i'r afael â'r sialensiau hyn drwy gyflwyno eu syniadau mewn fideo 3 munud a disgrifio eu syniadau mewn  erthygl 300 gair.

Meddai Paul Adams, LifeStart: "Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yn yr her hon ac yn sicr mae'n un o'r prifysgolion mwyaf brwdfrydig yr wyf wedi bod yn gweithio gyda hi. Nid yn unig bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau menter hanfodol mewn dull deniadol, byddant hefyd yn gallu gwella eu CV a phroffiliau LinkedIn."

Caiff ymgyrch cyfryngau cymdeithasol LifeStart ei harwain gan fyfyrwyr prifysgol, ac mae Jenny Light-Hook, myfyriwr Addysg Gynradd sydd ar ei thrydedd flwyddyn wedi'i dewis fel Llysgennad Digidol.

Meddai Jenny: "Clywais am y cyfle anhygoel i fod yn Llysgennad Digidol i LifeStart trwy fy interniaeth gyda Byddwch Fentrus Bangor. Gwelais gyfle i ddod yn llysgennad i’r platfform, a bu'n rhaid i mi ddweud wrth Virgin pam y byddwn i'n llysgennad da a chyflawni her yn ymwneud â rhywbeth yr oeddwn wastad eisiau ei ddysgu. Cymerais yr her o ddysgu caligraffeg, felly fe wnes i ddysgu fy hun i ddefnyddio cyfeirlyfrau a phennau arbennig ac ymarfer am oriau. Rwyf wedi rhannu fy siwrnai ddysgu ar gyfryngau cymdeithasol, gan annog eraill i ddechrau nawr ar rywbeth y maen nhw erioed wedi dymuno'i wneud.

"Rwy'n hyrwyddo'r platfform trwy bob math o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, Snapchat a Twitter. Mae bod yn llysgennad yn golygu hyrwyddo LifeStart yn ddigidol a mynychu digwyddiadau i ledaenu'r gair, yn ogystal ag argymell y platfform cymaint ag y bo modd. Mae hyn yn hawdd i mi gan fy mod yn wir yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i unrhyw un sy'n gysylltiedig â’r peth. O ran helpu fy sgiliau a chyflogadwyedd, rwyf wedi dysgu dulliau marchnata a hyrwyddo hanfodol a gweithio allan beth sy'n gweithio'n dda, yn ogystal â datblygu fy sgiliau meddwl a chreadigol i ddod o hyd i syniadau newydd a ffres er mwyn lledaenu’r gair.

"Mae gweithio gyda LifeStart wedi fy helpu i fod yn fwy mentrus a meddwl yn feirniadol am oresgyn materion a'u datrys gyda syniadau a chysyniadau a ystyriwyd yn drwyadl, yn ogystal â meithrin hyder er mwyn rhoi cyflwyniadau i bobl ddieithr a dysgu rhwydweithio â chysylltiadau pwysig!"

Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2017

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor