Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Partneriaeth y Brifysgol yn dwyn buddion yn y tymor hir i gwmni arloesol

Rhai o gynnyrch cwmni CellPath.Rhai o gynnyrch cwmni CellPath.Gall un o gwmnïau arloesol Cymru sy’n ymwneud â chyflenwadau meddygol briodoli cyfnod o dwf hynod o gyflym, pryd y cafwyd cynnydd o 400% yn nhrosiant y cwmni, ynghyd â chynnydd yn nifer y gweithwyr, o 5 i 65, i bartneriaeth bwysig â Phrifysgol Bangor.

A’r cwmni gynt yn adnabyddus am gynhyrchu a gwerthu deunyddiau plastig ar gyfer labordai, erbyn hyn, CellPath, sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd, Powys sy’n arwain y farchnad ym maes staeniau cytoleg, ymysg pethau eraill, gyda mwy na 50% o’r farchnad gartref ac o’r allforion i Ewrop. Yn ddiweddar, mae’r cwmni hefyd wedi dechrau masnachu yn UDA.

Mae’n sobreiddiol nodi mai canser ceg y groth yw’r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg menywod. Fodd bynnag, mae’r marwolaethau wedi lleihau’n ddirfawr yn sgil datblygiad prawf ceg y groth ac, yn ddiweddarach, cyflwyno brechiad. Ers i brawf Papanicolaou neu ‘pap’ gael ei gyflwyno, cafwyd lleihad o 74% mewn marwolaethau o ganser ceg y groth yn UDA.

Yn ystod y 90au, sylweddolodd y cwmni y gallai problem godi yn y dyfodol yng nghyswllt diagnosio trwy brofion ‘pap’ ar geg y groth. Daeth hyn i’r amlwg yn y cyfryngau ar yr un pryd â phrinder byd-eang o un o’r llifynnau a ddefnyddid yn y prawf ‘pap’. Nid oedd unrhyw gwmni unigol yn cynhyrchu ar raddfa fawr y staeniau na’r llifynnau a ddefnyddid mewn profion ‘pap’ ar geg y groth, a hynny’n arwain at brinder deunyddiau crai a hefyd at brisiau anwadal.  

Roedd yn amlwg fod angen dull newydd. Gwelodd CellPath y cyfle, a gweithio gydag Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor ar nifer o brojectau cysylltiedig yn ystod y blynyddoedd dilynol. O ganlyniad, datblygodd y cwmni a chynhyrchu set newydd o lifynnau i’w defnyddio mewn profion ceg y groth ac mewn gweithredoedd meddygol eraill.

Yr Athro Mark Baird, arbenigwr mewn cemeg organig synthetig, arweiniodd y gwaith yn Ysgol Cemeg y Brifysgol.

Yn sgil ‘Cynllun Cwmni Dysgu’ (a elwir bellach yn KTP), bu Dr Jeremy Tomkinson o Brifysgol Bangor yn gweithio yn y cwmni er mwyn gweithredu dull newydd o weithio gyda chyfansoddion a ddefnyddir yn y prawf ‘pap’ a chyda staeniau arbenigol biofeddygol eraill.

Meddai Rheolwr-Gyfarwyddwr CellPath, Mr Peter Webber:

“Roedd y staeniau newydd a ddatblygwyd yn y rhaglen hon yn fwy effeithiol, yn fwy economaidd ac ar gael yn rhwyddach na’r fformiwleiddiadau a geid eisoes. Roedd y Brifysgol hefyd yn gallu cynghori CellPath ynglŷn â sefydlu cyfleusterau labordy priodol er mwyn cynhyrchu’r staeniau hyn ac optimeiddio’r broses. Roeddem yn gallu lleihau costau cynhyrchu ac awgrymu dulliau effeithlon eraill wrth y cwmni.”

Buddsoddodd y cwmni £170k mewn cyfleusterau cynhyrchu, ond cafwyd canlyniadau ar unwaith, gyda chynnydd yn y trosiant o £1.1M i £1.5M yn y flwyddyn gyntaf (1996).

Meddai’r Athro Baird:

 “Mae’r KTP yn ffordd wych i Brifysgolion helpu cwmnïau – yn yr achos hwn, cymorth a barhaodd dros gyfnod o ryw 20 mlynedd. Maent hefyd yn rhoi hyfforddiant gwych i’r Cysyllteion a leolir yn y cwmni – yn yr achos hwn, mae Jeremy Tomkinson wedi symud ymlaen i fod yn Brif Swyddog Gweithredol i’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cnydau heblaw Bwydydd, ymgynghoriaeth flaenllaw ym maes Bioeconomeg sy’n rhoi cyngor uniongyrchol i’r Llywodraeth ac i ddiwydiant.”

Meddai Dr Tomkinson, “Mae’r KTP yn ffordd ddelfrydol i raddedigion ac ôl-raddedigion newydd gael profiad gwirioneddol o ddatblygiadau blaengar mewn diwydiant, tra cânt hefyd gymorth hollbwysig o brifysgol. Bu’r amser a dreuliais yn CellPath yn hynod o werth chweil, yn dechnegol ac yn bersonol, am iddo roi profiad uniongyrchol imi o’r modd y defnyddir projectau gwyddonol sydd hefyd â gogwydd masnachol. Ni allaf ond diolch i CellPath a Phrifysgol Bangor am roi’r cyfle imi weithio gyda hwn ar broject mor llwyddiannus.”

Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor