Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cymrodorion er Anrhydedd 2016

Mae'r gantores opera, Elin Manahan-Thomas ymysg yr unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn y Brifysgol yn ystod yr hâf.Mae'r gantores opera, Elin Manahan-Thomas ymysg yr unigolion sydd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn y Brifysgol yn ystod yr hâf.Bydd dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb, cantores opera, a’r ddynes sydd yn y swydd uchaf yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, ymysg yr unigolion a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-15 Gorffennaf 2016).

Bydd Nigel Owens, sy’n cael ei ystyried yn un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i rygbi.

Bydd Elin Manahan-Thomas, cantores soprano a ystyrir yn soprano gorau ei chenhedlaeth gwledydd Prydain  yn derbyn  Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i gerddoriaeth.

Dyrchafwyd yr Uwchfrigadydd Susan Ridge, Prif Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y Fyddin, i’w swydd bresennol yn 2015, a hi yw’r ddynes â’r swydd amlycaf yn Lluoedd Arfog Gwledydd Prydain. Mae’n gyfrifol am 130 o gyfreithwyr. Graddiodd Susan Ridge o Brifysgol Bangor yn 1984 gyda gradd mewn Hanes. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i’r Gyfraith.

Mae’r tri uchod ymysg 14 Cymrodoriaeth er Anrhydedd a gânt eu dyfarnu i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig yn eu meysydd dethol, boed hynny mewn diwydiant, busnes, bywyd cyhoeddus neu’r celfyddydau. Byddant yn cael eu hanrhydeddu ynghyd â’r myfyrwyr sy’n graddio o’r brifysgol eleni yn un o’r seremonïau graddio a gynhelir rhwng 11 a 15 Gorffennaf.

Meddai’r Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol:

“Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiannau ein holl raddedigion, ac yn eu dathlu, yn enwedig y rhai hynny sydd yn graddio eleni. Mae cynnal seremonïau graddio hefyd yn gyfle i ni ymfalchïo yn llwyddiant eraill o’n cymuned neu i anrhydeddu y rhai hynny sydd â pherthynas agos â’r Brifysgol. Mae eu llwyddiant yn gosod esiampl wych i’n myfyrwyr o’r hyn a ellir ei gyflawni.”

Dyma’r unigolion eraill a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd eleni:

Ruth Hussey CB OBE, a oedd tan ei hymddeoliad diweddar yn Brif Swyddog Meddygol/ Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru. Bydd yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i Wyddorau Meddygol.  

Bydd Rhian Huws-Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaeth i waith Cymdeithasol. Mae gan Rhian dros 30 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers iddi ennill ei gradd gyntaf a’i chymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol yma ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd Glyn Watkin Jones o’r cwmni datblygu ac adeiladu lleol, Watkin Jones & Son Ltd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i ddiwydiant. Mae gwreiddiau Cwmni Watkin Jones yn mynd yn ôl i 1791 ac roeddynt yn gyfrifol am osod carreg sylfaen Prifysgol Bangor yn 1907. Tan yn ddiweddar roedd y  cwmni  ym mherchnogaeth y teulu ac yn cael ei reoli ganddynt, a Glyn oedd y Cadeirydd mwyaf diweddar, hyd at lansio’r cwmni ar y Farchnad Buddsoddiadau Amgen ar 23 Mawrth eleni.

Mae John Meirion Morris wedi hen sefydlu ers blynyddoedd lawer fel un o gerflunwyr pwysicaf ac uchaf ei barch Cymru. Arwydd o’i statws yw bod cyfanswm o un ar ddeg o’i benddelwau o enwogion yn perthyn i gasgliad celf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymhlith y rhai mwyaf cyfarwydd yma ym Mhrifysgol Bangor mae ei benddelw o’r Athro Emeritws Gwyn Thomas, ei benddelw o’r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones sydd i’w weld ym mynedfa Neuadd Pritchard Jones, ac yn fwy diweddar ei benddelw o Bob Owen, Croesor a arddangosir yn Llyfrgell Shankland y Brifysgol. Bydd John Meirion Morris yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i’r celfyddydau.

Bydd y tad a’r ferch J.O. Roberts a Nia Roberts yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gyda’i gilydd - y  darlledwr Nia, sydd yn gyflwynwraig gyfarwydd iawn ar S4C, am ei chyfraniad i faes darlledu a’i thad, J.O. Roberts am wasanaeth i fyd y ddrama. Bu’n actor adnabyddus ar lwyfan a sgrin fel amatur ac yna fel actor proffesiynol ar ôl iddo ymddeol yn gynnar o’r Coleg Normal.

Mae sawl un o’r unigolion eraill sy’n derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd â chysylltiad â’r Brifysgol, yn cynnwys y canlynol:

Bydd yr Yr Athro Merfyn Jones, CBE, cyn Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaeth i’r Brifysgol. Hanesydd sy’n arbenigo yn hanes modern a chyfoes Cymru yw’r Athro Merfyn Jones, ac mae wedi gwneud sawl rhaglen ddogfen deledu. Ymunodd â Phrifysgol Cymru, Bangor yn 1990 fel uwch ddarlithydd mewn hanes. Daeth yn bennaeth yr Ysgol Hanes Cymru yn 1993 a’i benodi’n Athro Hanes Cymru yn 1994. Gwasanaethodd fel Deon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas am ddwy flynedd cyn ei benodi’n Ddirprwy Is-ganghellor yn 1998. Fe’i penodwyd yn chweched Is-ganghellor  y Brifysgol ar 1 Awst 2004.

Bydd Yr Athro John Porter, gwyddonydd adnabyddus yn rhyngwladol a baratôdd ran bwysig o adroddiad diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y newid yn yr Hinsawdd (IPCC AR5 Food Security and Food Production Systems) yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i wyddoniaeth. Graddiodd John Porter, sydd yn Athro ym Mhrifysgolion Copenhagen a Greenwich, o Fangor yn 1976 ac enillodd ei Ddoethuriaeth yn 1981.

Athro arall sydd a enillodd ei radd ddoethuriaeth o Fangor yw’r Athro John Wingfield o Brifysgol Califfornia. Bydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd am ei wasanaeth i Wyddoniaeth. Mae’r Athro Wingfield yn endocrinolegydd amgylcheddol ac mae’n ffigwr dylanwadol iawn ym maes cyllido ymchwil yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain, Ei Archdderchowgrwydd M. Rasheed Mohammed Al Maraj, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol am wasanaeth i fyd Bancio. Mae Ei Ardderchowgrwydd Al Maraj wedi bod yn Llywodraethwr Banc Canolog Bahrain ers mis Ionawr 2005. Fel Llywodraethwr, mae gan EA Al Maraj statws gweinidog yn y llywodraeth ac ef yw prif weithredwr y Banc, sy’n gyfrifol am sicrhau sefydlogrwydd ariannol a chyllidol Bahrain. Y Banc hefyd yw unig reolydd y diwydiant gwasanaethau ariannol yn y wlad. Mae EA Al Maraj hefyd yn aelod o fwrdd Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain, sefydliad y mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu ato fel partner dysgu.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor