Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Brydeinig
Prifysgol Bangor yw’r orau ym Mhrydain am ei darpariaeth o Glybiau a Chymdeithasau Myfyrwyr a’r drydedd Brifysgol orau ym Mhrydain yn ôl gwobrau Student Choice Awards 2017, gyda’r enwebiadau’n seiliedig ar adolygiadau gwych gan ei myfyrwyr.![]()
Yn ogystal ag ennill gwobr ‘Efydd’ am Brifysgol y Flwyddyn, gosodwyd y Brifysgol yn drydydd yng nghategori Cyrsiau a Darlithwyr a chategori Rhoi'n Ôl, ac ymhlith y deg uchaf ym mhob un o’r deg categori yr enwebwyd y Brifysgol ynddynt, gan gynnwys categori newydd, Rhoi yn ôl, lle’r oedd myfyrwyr yn sgorio eu prifysgol ar faint mae’n ei roi'n ôl i'r gymuned, boed hynny'n fyd-eang neu'n lleol.
Ni lwyddodd yr un Brifysgol arall i dderbyn cymaint o enwebiadau.![]()
Mae’r llwyddiant diweddaraf yn gadarnhad pellach o ansawdd y cyrsiau, llety, cyfleusterau a’r gefnogaeth i fyfyrwyr a gynigir ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus arall sydd hefyd wedi dangos ei bod ymhlith y 15 uchaf yn y DU yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol am foddhad myfyrwyr.
Croesawyd y newyddion gan yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor y Brifysgol, a dywedodd:
"Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol Whatuni. Rwyf wrth fy modd fod y Brifysgol wedi ennill gwobr categori eto, Gwobr Efydd am Brifysgol y Flwyddyn ac wedi dod yn agos mewn sawl categori arall. Mae'r fuddugoliaeth hon yn adlewyrchiad o’n cydweithrediad agos gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr er mwyn darparu addysg a phrofiad cyffredinol rhagorol. Rwy'n ddiolchgar i’n myfyrwyr am eu cymorth, ac yn falch iawn eu bod yn gwerthfawrogi eu hamser ym Mangor. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr am eu hymdrechion gwych.”
Dywedodd Dylan Williams, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr:![]()
“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill gwobr Clybiau a Chymdeithasau Gorau yng ngwobrau Whatuni 2017. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd gorau posib ac mae’r wobr yn cael ei derbyn ar ran pob myfyriwr ac aelod staff sydd wedi rhoi eu hamser a’u brwdfrydedd i sicrhau bod Bangor yr orau posib. Mae hon wedi bod yn flwyddyn arobryn ac roeddem hefyd yn falch o fod wedi derbyn Gwobrau NUS Cymru ac Uchel Sirydd Gwynedd am ein Cyfleoedd i Fyfyrwyr.”![]()
Mae’r 26,000 o adolygiadau a geir yng ngwobrau Whatuni yn golygu mai dyma’r crynhoad mwyaf cynhwysfawr o leisiau myfyrwyr yn y DU.
Enwebwyd Prifysgol Bangor yn y categorïau canlynol: Prifysgol y Flwyddyn, Cefnogaeth i Fyfyrwyr, Rhagolygon Swyddi, Clybiau a Chymdeithasau, Cyfleusterau Prifysgol, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol, Ôl-radd a Rhoi yn ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2017