Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Prosiect sy’n cael cefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi hwb i botensial busnesau Cymru yn yr economi werdd

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru yn siarad yn y LansiadEdwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru yn siarad yn y Lansiad.

Heddiw (15 Mai), bu Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, yn lansio cam nesaf prosiect sydd â’r nod o helpu busnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd i fod yn fwy cynaliadwy a chefnogi’r economi carbon isel.

Mae Rhwydwaith WISE yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, ac mae’n galluogi busnesau ymhob rhan o’r rhanbarth i gymryd mantais lawn o’r twf yn yr economi werdd.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr ar ymchwil a datblygu mewn prifysgolion, a defnyddio cyfleusterau’r prifysgolion hynny, nod y prosiect yw galluogi busnesau i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau cynaliadwy, ac i fod yn fwy cynaliadwy yn economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Nod Rhwydwaith WISE yw creu diwylliant o fusnesau hyderus sy’n defnyddio ymchwil ac arloesi fel rhan hollbwysig o’u datblygiad. Yn ystod Cam 1 y prosiect, bu cydweithio llwyddiannus â 500 o gwmnïau drwy gam 1, a nawr mae 60 cwmni newydd wedi ymuno.

Ar adeg lansio’r cam diweddaraf yn Adeilad y Cynulliad, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi:  “Rydw i’n hynod falch o lansio cam nesaf rhaglen Rhwydwaith WISE. Mae cefnogi twf yn y sector allweddol yma yn beth hanfodol. Mae’n enghraifft wych o’r cydweithio parhaus rhwng diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid: “Mae creu cenedl wirioneddol gynaliadwy yn un o amcanion allweddol ein Rhaglen Lywodraethu. Mae’n bleser mawr i mi ein bod wedi gallu buddsoddi arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi hwb i’r economi werdd.”

Yr Athro Richard Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Edwina Hart AC, Yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISEYr Athro Richard Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Edwina Hart AC, Yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISE.Dywedodd yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISE:

“Mae Rhwydwaith WISE yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion busnesau, ac yn arwain at ddatblygu amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau arloesol. Busnesau bach a chanolig yw llawer o fusnesau Cymru, ac fel arfer fydden nhw ddim mewn sefyllfa i gael eu hadrannau ymchwil a datblygu eu hunain. Felly, mae arbenigedd ein tair prifysgol yn cynnig adnodd gwerthfawr, hawdd ei gael. Rydym ni’n ceisio rhoi cyngor a chymorth fel bod partneriaid masnachol yn helpu i ddatblygu’r Economi Werdd yng Nghymru drwy ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau cynaliadwy.”

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyllid Ewropeaidd, mae Rhwydwaith WISE yn galluogi cwmnïau i fanteisio ar arbenigedd ymchwil a datblygu aruthrol ein tair prifysgol. Rydym yn cydweithio i roi cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau ac i wireddu ein potensial ein hunain yn yr economi werdd. Rydym yn falch o arwain y bartneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe, gan adeiladu ar lwyddiant WISE 1 a gynhaliwyd dan arweiniad ein cydweithwyr ym Mangor."

Astudiaethau achos

Dr Geoff Proffitt, WISE Abertawe, , Rebecca Colley-Jones a Dr. Einir Young WISE Bangor , Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru , Yr Athro Jamie NewboldCyfarwyddwr Rhwydwaith WISE.Dr Geoff Proffitt, WISE Abertawe, Rebecca Colley-Jones a Dr Einir Young WISE Bangor, Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Rhwydwaith WISE.Un busnes sydd eisoes yn rhan o Rwydwaith WISE yw Phytorigins o Gwm-y-Glo yng Ngwynedd. Mae’r cwmni’n cydweithio â Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth drwy WISE er mwyn canfod a fyddai ychwanegion penodol mewn bwyd anifeiliaid yn atal problemau gordewdra mewn cŵn a chathod.

Dywedodd Carol Michael o Phytorigins “Yn ôl dadansoddiad annibynnol gan GIA (y Global Intelligence Alliance) yn ddiweddar (2011), bydd y farchnad bwyd anifeiliaid fyd-eang wedi cyrraedd US$95.7 biliwn erbyn 2017. Mae hyn yn creu cyfleoedd gwych ar gyfer masnacheiddio cynnyrch a ddatblygwyd gan bartneriaid Rhwydwaith WISE, ac yn dod â manteision sylweddol posibl i economi Cymru.”

Enghraifft arall yw Hiraeth Group Sustainable o Ynys Môn, sy’n cynhyrchu nwyddau pren ar gyfer  cartrefi gan ddefnyddio pren o Gymru.

Drwy Rwydwaith WISE, bu’r cwmni'n cydweithio â Phrifysgol Bangor i ddatblygu cynnyrch pren wedi ei drin â gwres sydd wedi ei ardystio i fod yn addas ar gyfer codi adeiladau cynaliadwy, yn ogystal â chynnyrch arall o safon ar gyfer cartrefi.  Bu’r prosiect hefyd yn bwysig wrth ddatblygu cysylltiadau rhwng y cwmni â sefydliadau megis Coed Cymru er mwyn eu rhoi ar y llwybr cyflym i datblygu eu rhwydwaith cyflenwi. Erbyn hyn, maent yn bwriadu sefydlu cadwyn gyflenwi fwy, ynghyd â safle gweithgynhyrchu yn y gogledd.

Dywedodd Emlyn Williams, un o bartneriaid Hiraeth, fod ei gwmni wedi elwa’n fawr o gymorth Rhwydwaith WISE.

“Mi es i at Rwydwaith WISE i ddechrau efo her dechnegol, ond ers hynny maen nhw wedi helpu fy musnes mewn ffyrdd na wnes i erioed ddychmygu; brandio moesegol, cefnogaeth wrth wneud cais am arian, a rhwydweithio ... mae’r rhestr yn ddiddiwedd,” meddai.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor