Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Sensoriaeth dan unbennaeth Franco yn parhau i daflu cysgod dros lenyddiaeth yn Sbaen

Bydd Skyfall,  trydedd ffilm ar hugain James Bond, yn cael ei rhyddhau ar 26 Hydref, i gyd-fynd â hanner canmlwyddiant rhyddhau’r ffilm James Bond gyntaf, Dr No yn 1962. Ond  bydd ffans brwd yr asiant cudd yn synnu  o ddeall  bod  cyfieithiad  Sbaeneg presennol Dr No, un o nofelau mwyaf poblogaidd Ian Fleming, yn dal i gynnwys toriadau a wnaed gan sensoriaid dan Unbennaeth Franco (1939-1975).

Bydd darllenwyr yn Sbaen hwythau’n synnu wrth ddarganfod bod y llyfr hwn, a nifer o gyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd  sydd yn dal ar gael ar hyn o bryd, yn parhau i gynnwys golygiadau a gymeradwywyd gan sensoriaid yr Unben - a hyd nes yn ddiweddar iawn, fod nifer o nofelau eraill dal ddim ar gael yn Sbaen yn sgil sensoriaeth cyfnod Franco.

Dr Jordi Cornellà-DetrellDr Jordi Cornellà-DetrellCychwynnodd Dr Jordi Cornellà-Detrell, Darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, ar astudiaeth hanesyddol o sensoriaeth cyfnod Franco. I wneud y gwaith cafodd Ysgoloriaeth Ymchwil Gynnar Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, a chael  ei synnu wrth ddarganfod bod y fersiynau a gafodd eu sensro yn dal i gael eu hailgyhoeddi a’u darllen heddiw:

"Dechreuais fy astudiaeth, gan gymharu newidiadau’r sensor â’r fersiwn  wreiddiol o nofelau amrywiol, gan gynnwys Dr No.  Sylweddolais mai argraffiad o’r fersiwn wedi’i sensro oedd yr ailargraffiad modern roeddwn yn ei ddarllen, a minnau wedi  cymryd  y byddai’n gyfieithiad cyflawn o’r gwreiddiol. Sylweddolais fod yr un peth yn wir am nifer o nofelau eraill."

Fel yr eglurodd Dr Cornellà-Detrell: "Yn ystod cyfnod cyfundrefn Franco, ystyriwyd  syniadau tramor yn fygythiad posibl i wead moesol a chymdeithasol y wlad. Roedd y gyfundrefn yn hyrwyddo natur hynod Gatholig Sbaen ac yn sensro llenyddiaeth yr ystyrid ei bod yn groes i hynny neu’n groes i safbwynt gwleidyddol y gyfundrefn. Roedd nofelau Ian Fleming yn bur rhywiol ac anllad eu cynnwys o ystyried y cyfnod, ac nid oedd hynny’n cyd-fynd â moesau gwlad Gatholig."

Wrth drafod Dr No, dywed Dr Cornellà-Detrell: "Gwrthwynebodd sensoriaid Sbaen yn ffyrnig sawl ymdrech i gyhoeddi’r nofel. Roeddent o’r farn y byddai’n tanseilio gwerthoedd moesol y wlad. Gwrthodwyd yn llwyr fersiwn o’r nofel a gyflwynwyd i’r sensoriaid yn 1960. Bum mlynedd yn ddiweddarach, gorfodwyd y golygydd i wneud toriadau sylweddol.  Ystyriwyd bod dwy dudalen olaf y nofel yn bornograffig, er enghraifft, a chawsant eu hepgor yn gyfan gwbl, ac o ganlyniad mae diwedd y nofel yn ymddangos yn frysiog ac nid yw’n gwneud llawer o synnwyr. Ni ddaeth effaith y sensoriaeth i ben efo cwymp y gyfundrefn, gan i fersiynau sensoredig Dr No gael eu hailargraffu yn 1996, 2001 a 2011. Nid yw nofel Fleming yn eithriad; mae enghreifftiau tebyg yn cynnwys gweithiau fel Parallel 42, John Dos Passos; The Prime of  Miss Jean Brodie, Muriel Spark; Rosemary’s Baby Ira Levin, The Member of the Wedding, Carson McCuller a The Postman Always Rings Twice gan JM Cain, i enwi ond ychydig."
 
Cadfridog FrancoCadfridog FrancoMeddai ymhellach: "Sensoriaeth yw un o etifeddiaethau mwyaf hirhoedlog, ond anweledig, cyfundrefn Franco. Bron i 40 mlynedd ar ôl cwymp y gyfundrefn, mae miloedd o gyhoeddiadau, sy’n dal i gynnwys sensoriaeth y gyfundrefn,  ar silffoedd llyfrgelloedd cyhoeddus, preifat a phrifysgol, ac mae cyhoeddwyr yn dal i ail-olygu fersiynau sydd eisoes wedi’u sensro heb yn wybod i'r darllenwyr.  Gan fod  cyhoeddwyr  yn parhau i gynnig llyfrau  sydd wedi’u sensro i'r cyhoedd, mae sensoriaeth yn dal i chwarae swyddogaeth bwysig ym mywyd diwylliannol y wlad ac ni ellir ei ystyried yn gyfnod hanesyddol nad yw’n berthnasol i’r presennol.

Mae Dr Cornellà-Detrell  bellach yn awyddus i archwilio pam na wnaeth dyfodiad democratiaeth atal cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio llyfrau wedi’u sensro. Ni ofynnwyd y cwestiwn o’r blaen, sy'n dangos y graddau y mae rhai agweddau penodol ar waddol yr unbennaeth  yn parhau’n ddiwrthwynebiad.
 
Meddai: "Mae'n ffaith hysbys bod Sbaenwyr wedi ei chael yn anodd dod i delerau â phroblemau eu hanes diweddar. Roedd Deddf Adfer y Cof Hanesyddol, a basiwyd yn 2007, yn gam mawr o ran ail archwilio gorffennol y wlad, gan iddi ysgogi dadl am ganlyniadau gormes cyfundrefn Franco . Mae'r ddeddf yn condemnio'r unbennaeth a sefydlwyd trefn o dalu iawndal i ddioddefwyr trais gwleidyddol. O safbwynt diwylliannol, sefydlwyd trefn i gael gwared â symbolau cyhoeddus a cherfluniau yn gogoneddu unbennaeth Franco, ond nid yw’n cyfeirio at arteffactau diwylliannol eraill fel llyfrau. Mae'r hyn a elwir yn 'gytundeb i anghofio', sef penderfyniad ymwybodol i beidio â chwestiynu neu archwilio'r gorffennol er mwyn hwyluso'r trawsnewid i ddemocratiaeth, wedi atal darllenwyr, llyfrgelloedd a chwmnïau cyhoeddi  rhag datblygu strategaethau i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae rhai llyfrau wedi cael eu hail gyfieithu neu eu hadfer, ond o ganlyniad i'r amnesia cyffredinol sy'n ymwneud â pholisïau’r gyfundrefn ddiwylliannol, mae’r ymdrechion hyn wedi mynd heibio i raddau helaeth heb i neb sylwi arnynt. O ganlyniad, mae llyfrgelloedd cyhoeddus Sbaen, heb fod yn ymwybodol o’r broblem, yn dal i hyrwyddo darllen deunyddiau sydd wedi’u sensro."

"Rwyf am weld y mater  yn cael ei godi a’i drafod yn ehangach yn Sbaen fel y gall darllenwyr yn Sbaen gael mynediad at lyfrau  sydd wedi'u hail gyfieithu, neu eu hadfer".

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor