Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders

Bydd myfyrwyr y Gyfraith (chwith i dde) Andrew Jones, Damian Etone, Adam Gulliver a Cathal McCabe yn cynrychioli Prifysgol Bangor – a Chymru – yng nghystadleuaeth enwog y Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders. Gyda nhw yma mae Dr Evelyne Schmid, eu mentor.Bydd myfyrwyr y Gyfraith (chwith i dde) Andrew Jones, Damian Etone, Adam Gulliver a Cathal McCabe yn cynrychioli Prifysgol Bangor – a Chymru – yng nghystadleuaeth enwog y Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders. Gyda nhw yma mae Dr Evelyne Schmid, eu mentor.Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.

Bydd myfyrwyr y Gyfraith, Andrew Jones, Damian Etone, Cathal McCabe ac Adam Gulliver yn teithio i'r Iseldiroedd i gystadlu yn Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders. Hon yw'r gystadleuaeth enwocaf o'i bath yn Ewrop ac fe'i cynhelir yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn Yr Hâg.

Mae Ffug Lys Barn Rhyngwladol Telders yn achlysur addysgol lle mae myfyrwyr o bob rhan o Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.  Rhaid i bob tîm gynrychioli ochrau'r ceisydd a'r  atebydd mewn achos cyfreithiol ffug dan amodau sy'n debyg i rai achos llys go iawn gerbron Llys y Byd.

Mae'r tîm yn awr yn tynnu at derfyn eu paratoadau ac wedi cael hyfforddiant gan Dr Evelyne Schmid a Ms Yvonne McDermott, darlithwyr yn Y Gyfraith.  Ddydd Mercher, 17 Ebrill, byddant yn rhoi cyflwyniad olaf o'u dadleuon i gynulleidfa o'u cyd-fyfyrwyr, ffrindiau a chefnogwyr cyn y rowndiau cynderfynol a therfynol, a gynhelir rhwng 25 a 27 Ebrill.

Fel rhan o'u paratoadau terfynol, mae Tîm Telders Bangor yn awr yn chwilio am noddwyr i'w helpu i dalu'r tâl cymryd rhan. 

"Mae'n gam rhyfeddol i'r tîm fod wedi mynd cyn belled â hyn a chael cyfle i gynrychioli Cymru mewn digwyddiad mor arbennig," meddai Dr Evelyne Schmid, a fydd yn mynd gyda'r myfyrwyr i'r Iseldiroedd.  "Mae'r paratoi wedi bod yn drylwyr iawn ac mae pedwar aelod y tîm yn hynod ddawnus.  Yr her olaf sydd ar ôl yw cael arian nawdd. Bydd pob rhodd, waeth pa mor fychan, yn hynod bwysig i wneud y daith yma'n bosibl."  

O bedwar aelod y tîm, mae tri ohonynt yn fyfyrwyr ar y rhaglen Feistr mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol a Chyfraith Hawliau Dynol, a gynigiwyd gyntaf ym Mangor ym Medi 2011.  Mae Andrew Jones yn gweld y Gystadleuaeth Telders yn gyfle unigryw i ymarfer yr hyn y mae wedi'i ddysgu drwy gydol ei astudiaethau ac i weld y gymuned gyfreithiol ryngwladol a'i phrosesau ar waith.

Mae Cathal McCabe, a raddiodd o Ysgol y Gyfraith Bangor, yn un o'r aelodau a sefydlodd Cymdeithas Gomedi Bangor, a fydd yn cynnal noson gomedi arbennig ar 17 Ebrill i godi arian tuag at gronfa'r tîm.  Ei nod yn y pen draw yw dod yn fargyfreithiwr yn arbenigo ym meysydd y gyfraith sy'n ymwneud â phobl fregus, plant yn arbennig.

Enillodd Damian Etone, o Cameroon, ysgoloriaeth Chevening hynod bwysig i gyllido ei astudiaethau ym Mangor.   Ac yntau wedi tyfu i fyny yng nghanol troseddau yn erbyn hawliau dynol, ei uchelgais yw dod yn fargyfreithiwr yn arbenigo mewn cyfraith hawliau dynol a gallu helpu ei wlad enedigol.   

Pedwerydd aelod Tîm Telders Bangor yw Adam Gulliver. Mae'n fyfyriwr israddedig ac yn Feistr y Ffug Lys i Gymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith Bangor, sy'n cynnal ei chystadlaethau ffug lys blynyddol ei hun gyda chefnogaeth gan y staff academaidd.  Mae'n credu bod her gorfod dysgu llawer am gyfraith ryngwladol heb unrhyw astudiaethau blaenorol ynddi yn rhywbeth sydd wedi helpu i ddatblygu ei allu i ddysgu'n annibynnol ac mae'n gobeithio ysgogi myfyrwyr eraill i gymryd rhan mewn ffug lysoedd barn.

Fe wnaeth Gwilym Owen, darlithydd yn Y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Bangor ddweud cymaint yr oedd yn cefnogi'r tîm fel cynrychiolwyr yr Ysgol a Chymru hefyd: “Fel Cyfreithiwr Adfocad, rwy'n hynod falch o weld myfyrwyr o Fangor yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yma. Mae eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad yn ysbrydoliaeth enfawr i bobl ifanc yn y rhanbarth. Fe fydd ymarfer cyfreithiol yng Nghymru yn sicr o elwa o'r fath fentrau, ac fe wyf yn dymuno cefnogaeth calonnog iddynt yn eu hantur!”

I gyfrannu i Gronfa Tîm Telders Bangor, neu i gael mwy o wybodaeth am eu hachos, ewch i http://www.crowdfunder.co.uk/investment/representing-wales-in-the-telders-international-law-moot-court-1653

Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor