Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Tri o Brifysgol Bangor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o’n darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth  hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn. Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.

Y ddwy yng nghategori’r Gwobrau Saesneg yw’r bardd Zoë Skoulding, am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water, a’r nofelydd Alys Conran, am ei nofel ddiweddaraf, Dignity.

Mae cysylltiadau cryf â Bangor yn y ddwy gyfrol. Cafodd y nofelydd Alys Conran ei magu a’i haddysgu ym Mangor. Mae Footnotes to Water yn dilyn llwybr dwy afon anghofiedig, sef afon Adda ym Mangor ac afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.

Mae Zoë Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor eisoes wedi cyhoeddi sawl casgliad o farddoniaeth a gweithiau eraill. Mae hi’n ymddiddori mewn barddoniaeth sy’n ymwneud â lleoliad, ecoleg a barddoniaeth wedi ei gyfieithu.

Meddai:
"Dechreuodd casgliad Footnotes to Water oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu gan orffennol Bangor a manylion amdani na ŵyr llawer amdanynt, megis afon Adda sy’n llifo o’r golwg dan y ddinas. Sgwrs yw’r gyfrol gyda ac am y lleoliadau rwy’n eu caru, ac felly rwyf wrth fy modd bod y gyfrol wedi denu’r fath sylw."

Mae ei gwaith wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ted Hughes, a roddir am waith barddonol newydd, rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2009, a chafodd wobr y Cholmondeley Society of Authors yn 2018. Mae hi’n Ddarllenydd ac yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.

Cyhoeddwyd Dignity, nofel ddiweddaraf Alys Conran gan Weidenfeld and Nicolson ac fe gafodd groeso gwresog a chanmoliaeth fawr.

Croesawodd Alys y newyddion gan ddweud:

“Mae’n wych clywed bod Dignity ar y rhestr fer. Rwy’n ddiolchgar bod y gwobrau hyn yn rhoi hwb i lenyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt yn y cyfnod anodd sydd ohoni. Mae fy nofel yn trafod rhagfarn a chyfeillgarwch, cariad a gobaith. Mae’r pethau hyn yn bwysicach rŵan nag erioed, ac rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn dod o hyd i loches rhwng tudalennau fy nghyfrol ac yn y gweithiau hanfodol a chyfareddol eraill ar y rhestr.”

Enillodd nofel gyntaf Alys Conran, Pigeon, (Parthian Books) wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2017 a chyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol Dylan Thomas. Enillodd hefyd wobr Ymddiriedolaeth Rhys Davies am waith ffuglennol, Gwobr y Bobol y Wales Arts Review  a chyrhaeddodd restr hir gwobr Author's Choice a roddir am nofel gyntaf. Mae Alys yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli yn 2019-20.

Wedi ei magu ym Mangor, treuliodd Alys sawl blwyddyn yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i’r ardal hon i fyw ac ysgrifennu.

Mae hi’n darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth ac yn arwain gweithdai ysgrifennu’n rheolaidd i gyrff eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae nofel Ifan Morgan Jones Babel wedi ei chynnwys ar Restr Fer Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn.
Mae’r nofel yn trafod themâu cyfoes newyddion ffug a phoblyddiaeth wleidyddol yn erbyn cefndir y galwadau am well amodau gwaith a phryderon am iechyd cyhoeddus trefi diwydiannol Cymru canol yr 19eg ganrif.

Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam, wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif ac roedd yr ymchwil hwnnw yn sail i’w nofel Babel.

“Roedd fy nghyfnod yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor yn amhrisiadwy o ran rhoi mynediad imi i’r adnoddau a’r arbenigedd oedd eu hangen er mwyn ail-greu’r dirwedd ddiwydiannol a gwleidyddol a welir yn y nofel,” meddai Ifan Morgan Jones.

“Pan ysgrifennais y llyfr, roedd byd lle roedd pobl yn byw yn eu bywydau yng nghysgod haint ac afiechyd nad oeddent yn eu deall yn ymddangos yn eithaf ffansïol, ond yn anffodus mae digwyddiadau cyfredol wedi gwneud hynny yn anghyffyrddus o gyfoes.

“Fodd bynnag, rwy’n falch iawn o gael fy enwi ar y rhestr fer ar gyfer y wobr bwysig hon a fydd, gobeithio, yn rhoi hwb mawr ei angen i’r diwydiant llyfrau yng Nghymru yn ystod cyfnod mor anodd.”

Gellir pleidleisio i bob llyfr o dan y categori Barn y Bobl.

Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn lenyddol yng Nghymru a’r gobaith yw y cyhoeddir enwau’r enillwyr ddiwedd Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor