Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Uchel Siryf newydd yn gwobrwyo myfyrwyr am eu gwaith gwirfoddol

Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.

Cyflwynwyd gwobrau i’r holl enillwyr gan yr Uchel Siryf, Mrs Marian Wyn Jones,  gan gyflawni ei swyddogaeth gyntaf fel Uchel Siryf. Llongyfarchwyd y myfyrwyr am roi o’u hamser a’u hymdrechion, ar ben eu gwaith astudio, i gyfrannu at y gymuned myfyrwyr a'r gymuned yn ehangach trwy eu gwaith gwirfoddol.

Wrth gyflwyno’r gwobrau dywedodd Mrs Marian Wyn Jones, “Mae’n bleser cael cydnabod a gwobrwyo myfyrwyr Prifysgol Bangor am y gwaith gwerthfawr y maent yn cyflawni mewn rolau, cynlluniau a rhaglenni gwahanol o fewn y gymuned leol. Mae’r myfyrwyr yn gwirfoddoli mewn ystod eang o brojectau, ac yn rhoi 400 awr bob wythnos yn gwirfoddoli mewn projectau sy’n ymwneud â phlant, pobl ifanc a phobl agored i niwed yn y gymdeithas.”

Enillwyr unigol 2013 oedd:

Mike Dixon, myfyriwr Troseddeg a Seicoleg 28 oed a ddaw yn wreiddiol o ardal Wigan.  Derbyniodd Mike £100 i gydnabod ei waith gydag un o brojectau gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, sef project Tŷ Newydd, a gynhelir mewn hostel fechnïaeth ym Mangor. Mae’r project yn ymwneud ag annog y dynion i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgwrsio cyffredinol a thwrnameintiau pwl. Wrth enwebu Mike dywedwyd, “Mae’n bleser cydweithio gyda Mike  ar y project; mae’n arweinydd ac yn  esiampl dda i’r dynion ac yn dangos cydbwysedd iach rhwng bod yn gyfrifol a chael hwyl”.

Disgrifiwyd James Mclean,  myfyriwr  Gwyddor Amgylcheddol  o Kenya yn ei enwebiad am y wobr fel, “enghraifft wych o unigolyn sy’n wirioneddol  anhunanol”.  Ers dwy flynedd a hanner  mae Jamie  wedi rhoi yn ddiflino o’i amser a’i frwdfrydedd er lles pobl eraill. Bu’n gwirfoddoli gyda chlwb deifio’r brifysgol a chynnig ei sgiliau cymorth cyntaf i glybiau chwaraeon a chymdeithasau eraill. Cyfrannodd ei arbenigedd yn wirfoddol trwy hyfforddi dros 600 o fyfyrwyr mewn sgiliau sy’n ddrud ac  yn anodd eu dysgu fel  sgwba blymio a bu’n hyfforddi pobl nad ydynt yn anabl ac unigolion gydag anawsterau dysgu a chorfforol. Bu hefyd yn cynorthwyo eraill i fwynhau’r awyr agored mewn cychod modur. Bob penwythnos yn ystod y tymor, bu Jamie’n trefnu tripiau lleol ar y môr i nifer fawr o fyfyrwyr a’r gymuned leol.

Yn ôl yr enwebiad,  yr hyn sy’n gwneud Jamie’n unigryw yw ei angerdd heintus a brwdfrydedd i roi cyfle i bobl eraill, gan sicrhau diogelwch, trefniadaeth a chyfranogiad o’r radd uchaf bob amser. Mae’n unigolyn bonheddig a brwdfrydig y mae pawb yn ei hoffi ac mae’n llysgennad da i Fangor a’r myfyrwyr.”  Derbyniodd Jamie £100.

Enillwyd y wobr grŵp o £300 gan Nawdd Nos, sef gwasanaeth gwrando a gwybodaeth a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr. Derbyniodd cydlynwyr Nawdd Nos, Lucy Bryning a Susan McCandless y wobr ar ran y grŵp.  Bwriad Nawdd Nos yw sicrhau bod pob myfyriwr yn cael mynediad at gefnogaeth  tu-allan-i-oriau  ar ffurf gwasanaeth gwrando sy’n gyfeillgar a ddim yn feirniadol.  Mae’r gwasanaeth yn agored bob nos rhwng 8.00 y nos ac 8.00 y bore yn ystod y tymor. Mae’r grŵp yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr ar adeg pan nad oes llawer o wasanaethau myfyrwyr, teulu neu ffrindiau ar gael. Caiff y gwirfoddolwyr eu hyfforddi i gefnogi unigolion sy’n delio â nifer o wahanol broblemau. Bydd  myfyrwyr yn ffonio Nawdd Nos i drafod pob math o broblemau  ymarferol sy’n effeithio ar fyfyrwyr fel arholiadau neu broblemau academaidd yn ogystal â materion  iechyd meddwl fel hunan-niwedio neu hunanladdiad. Gall Nawdd Nos hefyd  gyfeirio myfyrwyr at wybodaeth berthnasol a gwasanaethau eraill yn y brifysgol a thu hwnt. Ar hyn o bryd mae Nawdd Nos yn cynnig cyfle i 65 o fyfyrwyr wirfoddoli am o leiaf wyth shifft 12 awr yr un yn ystod y flwyddyn,  gan wneud cyfanswm o dros 5,000 awr o wirfoddoli.  Dywedodd Lucy ar ran Nawdd Nos y caiff yr arian ei wario ar achos da, “Mae’r gwirfoddolwyr yn ddienw oherwydd naturiol cyfrinachol y gwasanaeth. Golyga hyn nad ydynt yn aml yn cael yr un gydnabyddiaeth gan eu cyfoedion a’r gymuned o gymharu â dulliau eraill o wirfoddoli. Felly rydym yn hynod falch o dderbyn y wobr ar ran ein holl wirfoddolwyr a gall bob un ohonynt deimlo’n falch am yr hyn maent yn ei gyflawni a’r gydnabyddiaeth a gafwyd heddiw.”

Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor