Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

WISERD i dderbyn cyllid sylweddol gan ESRC er mwyn parhau ag ymchwil cymdeithas sifil

Mae WISERD yn un o bedair canolfan ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn y DU sydd wedi llwyddo yng nghystadleuaeth hynod gystadleuol Canolfannau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Bydd WISERD yn cael £6.3 miliwn fel ail-fuddsoddiad i barhad ei hymchwil ar gymdeithas sifil – y trydydd tro i gyllid sylweddol gael ei ddyfarnu yn hanes deng mlynedd WISERD.

Bydd Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD yn adeiladu ar yr holl weithgareddau ymchwil WISERD blaenorol i gynnal rhaglen ymchwil pum mlynedd uchelgeisiol yn canolbwyntio ar y cysyniad o newid safbwyntiau ar haeniad dinesig ac atgyweirio sifil.

Nod y rhaglen newydd yw trawsnewid ein dealltwriaeth o sut mae ffurfiau o allgau ac ehangu dinesig, a cholledion ac enillion dinesig, yn effeithio ar gymdeithas sifil – a sut mae cymdeithas sifil yn ymateb ac yn cyfrannu at hyn, a’r potensial i sefydliadau cymdeithas sifil chwarae rôl allweddol o ran trwsio cyfansoddiad bywyd dinesig.

Drwy gynhyrchu tystiolaeth a dadansoddiad empirig newydd, bydd y rhaglen yn effeithio ar bolisi ac ymarfer cymdeithasol. Bydd yn mynd i’r afael â nifer o’r prif heriau sy’n wynebu cymdeithas, fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, polareiddio ac ymddieithrio gwleidyddol, mudo ac amlddiwylliannedd, deinameg newidiol gwaith a’r economi ‘gig’, ac effaith arloesiadau technolegol newydd.

Er mwyn gwireddu’r rhaglen ymchwil uchelgeisiol a rhyngddisgyblaethol hon, bydd WISERD yn manteisio ar arbenigedd ac arloesedd ar draws ei brifysgolion partner yn Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Bydd partneriaethau â phrifysgolion eraill yn y DU a ledled y byd hefyd yn chwarae rôl bwysig.  Bydd meysydd sgiliau a gwybodaeth allweddol yn cynnwys ymchwil gymharol ryngwladol, dylunio a dadansoddi ymchwil hydredol, ymchwil ethnograffig ac arsylwi, astudiaethau achos estynedig a dulliau ymchwil cyfranogol. Bydd seilwaith data ac integreiddio data hefyd yn ffocws yn y rhaglen newydd.

Meddai’r Prif Ymchwilydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Ian Rees Jones: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i WISERD. Un o’n prif gryfderau yw’r gallu i gynnal ymchwil ar y cyd gyda phartneriaid cymdeithas sifil, fel elusennau a’n cymunedau lleol. Mae’r wobr hon yn rhoi’r cyfle i ni gryfhau’r partneriaethau a’r rhwydweithiau hyn ymhellach, yn y DU ac yn rhyngwladol, a chyflawni rhaglen cyfnewid gwybodaeth gyffrous a hygyrch dros y pum mlynedd nesaf. Rydym ni hefyd yn edrych ymlaen at barhau i ehangu capasiti ymchwil gwyddorau cymdeithasol a meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr ymchwil y dyfodol.”

Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC: “Rydym ni ar ben ein digon i gyhoeddi’r cyllid ar gyfer y pedair canolfan hyn, sy’n dangos ehangder rhagoriaeth gwyddorau cymdeithasol yn y DU. Mae’n galonogol gweld y canolfannau ESRC presennol yn parhau i adeiladu ar gorff dirfawr o waith.”

Meddai Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr Athro Syr Mark Walport: “Mae’r pedair canolfan hyn yn cynrychioli buddsoddiadau sylweddol ar draws y tirlun ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Byddant yn chwarae rhan bwysig o ran cynnal safle rhyngwladol y DU ar flaen y gad gydag ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.”

Bydd y Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD newydd yn dechrau ym mis Hydref eleni ac yn parhau hyd 2024.

Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2019

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor