Y darlledwr Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor
Huw Edwards
Bydd y darlledwr adnabyddus Huw Edwards yn rhoi darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, 24 Tachwedd. Cynhelir darlith flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig, 'Duw a'r Gin-shop: hanes cynnar capeli Cymraeg Llundain', yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio am 6pm. Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau. Traddodir y ddarlith yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd. A fyddech cystal ag archebu tocynnau a phensetiau cyfieithu drwy Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 382828.
Mae Huw Edwards yn un o ddarlledwyr a chyfathrebwyr amlycaf ei genhedlaeth ac yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor. Mae hwn yn gyfle arbennig i'w glywed yn siarad am ei ymchwil ddiweddar, y gwnaed peth ohoni yn archifau Prifysgol Bangor.
"Prif sefydlydd y capel Cymraeg cyntaf yn Llundain oedd Edward Jones, cyn filwr a thafarnwr. Yn y ddarlith yma byddaf yn olrhain hanes cynnar capeli Cymraeg yn Llundain, gan egluro eu pwysigrwydd yn hanes a diwylliant Cymry Llundain."
Gweler hefyd: https://www.bangor.ac.uk/news/digwyddiadau/huw-edwards-duw-a-r-ginshop-hanes-cynnar-capeli-cymraeg-llundain-33620
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2017