Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Rhesymau dros astudio yn lleol
      • Bangor a'r Ardal

    Dyddiau Agored Clirio

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Clirio 2025
      • Cyrsiau Clirio
      • Gwneud Cais Clirio
      • Ffonio'r Llinell Gymorth Clirio
      • Sgwrs Fyw Clirio
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Diwrnodau Agored Clirio
    • Llety i Fyfyrwyr
      • Darganfod Eich Ystafell Berffaith
      • Sicrwydd Llety
    • Amdanom Ni
      • Taith Rithwir
    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Clirio 2025
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Clirio 2025

    Gwybodaeth i Ddeiliaid Cynnig

    Archebu Prosbectws Poced

    Dyddiau Agored

    Taith Rhithiwr

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Croeso 2024
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Wythnos Groeso

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Y Goron i Guto

Llongyfarchiadau mawr i'r Prifardd Guto Dafydd, un o gyn-fyfyrwyr disglair Ysgol y Gymraeg Bangor, ar ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni!

Cyflwynwyd y Goron iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, brynhawn Llun, 4 Awst. Yn 24 oed, mae Guto’n un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl.

Gyda 32 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, Golygfa 10 ddaeth i’r brig am ei ddilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun ‘Tyfu’. Traddodwyd y feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn gan Dylan Iorwerth, ar ran ei gyd-feirniaid, Marged Haycock a Dafydd Pritchard, ac wrth sôn am waih Golygfa 10, dywedodd, “Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe. Ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi. Mae yna sawl math o dyfu – geni babi i’r byd, twf neu ddiffyg twf cenedl, is-stori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i’n hargyfwng presennol.

“Cerddi heddiw ydyn nhw. Rhai am ddigwyddiadau eleni. Ymhen blwyddyn neu ddwy mi fydd angen troednodiadau ac mi fydd rhai’n gweld hynny’n wendid. Ond dan ni’n beirniadu eleni. Ac mae Golygfa Deg yn gosod heddiw mewn ffordd iasol ar gefndir cannoedd o flynyddoedd o’n hanes ni.

“Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â’r hen gerdd am grogi’r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr. Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â’r gwynt a’r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, ffordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a’i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd – ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu’r atom.

“Wrth i’r pethau yna ddod ynghyd – ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a’i hyder o wrth drin iaith a goslef -– mae yna rywbeth llawer mwy’n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a’r cryniadau’n parhau ymhell bell ar ôl gorffen darllen. Mi gawson ni ein codi o’n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar.

“Yn y diwedd, doedd y penderfyniad mawr ddim yn anodd o gwbl. Coron eleni ydi hi ac mae hi’n bendant iawn yn mynd i Golygfa Deg.”

Daw Guto Dafydd yn wreiddiol o Drefor, ond mae bellach yn byw ym Mhwllheli gyda Lisa'i wraig. Ar ôl mynd i Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd. Erbyn hyn, mae'n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd. Mae arno ddyled i'w deulu ac i athrawon a llu cyfeillion am ei gefnogi a'i ysbrydoli.

Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach ers blynyddoedd, gan lwyddo i lenwi dresel ei Nain ag ambell dlws a chadair. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, ar ôl cael sawl siom, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon yn Ninbych y llynedd.

Mae'n drydarwr brwd, yn aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon, ac yn mwynhau darllen, darlithio ac adolygu. Mae'n un o golofnwyr y Glec, ac yn cyfrannu'n rheolaidd i Barn, Barddas, Tu Chwith a chyhoeddiadau eraill. Mae Jac, ei nofel dditectif gyffrous i bobl ifanc, newydd ddod o wasg y Lolfa, a chyhoeddir ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Gyhoeddiadau Barddas yng ngwanwyn 2015.

Rhoddir y Goron a’r wobr ariannol eleni gan Gyngor Sir Gâr, a chomisiynwyd yr artist lleol, Angharad Pearce Jones i ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron.

Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan dreftadaeth diwydiannol ardal yr Eisteddfod, ynghyd â hanes coeden Myrddin. Mae'r cynllun ar ffurf coeden, sy'n tyfu o'r tu blaen tuag at y cefn. Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes coeden Myrddin, o lle mae tref a Sir Gaerfyrddin yn cael eu henwau, a gwnaethpwyd y Goron o ddur. Er y deunydd diwydiannol roedd yr artist yn awyddus i'r Goron edrych yn gywrain, yn addurnedig ac yn werthfawr.

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/.

Straeon perthnasol:

Guto’n ennill gradd dosbarth cyntaf a gwobr uchaf y Brifysgol

Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor