Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ymchwilydd PhD yn ennill gwobr mewn Cynhadledd Ryngwladol

Anita'n trafod ei phoster ymchwil yn y Gynhadledd Ryngwladol.Anita'n trafod ei phoster ymchwil yn y Gynhadledd Ryngwladol.Dyfarnwyd gwobr mewn cynhadledd ryngwladol fawreddog i ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, Anita Weissflog, am y cyflwyniad poster gorau.

Mae Anita, sy'n ymchwilio i rôl ffyngau pridd yn aildyfiant coedwigoedd trofannol yn dilyn eu haflonyddu, yn astudio am radd ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor. Mae'n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol trwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Envision. Mae adferiad coedwigoedd trofannol yn aml yn broses araf ac anrhagweladwy, sy’n cyfyngu ar y potensial i adfer bioamrywiaeth a'r buddion eraill a ddaw o goedwigoedd megis storio carbon. Mae angen ar frys am well dealltwriaeth o'r mecanweithiau sy'n gyrru dynameg coedwigoedd trofannol yn dilyn aflonyddwch difrifol er mwyn llywio gwell dulliau o’u hadfer. Mae ymchwil Anita yn archwilio rôl ddiddorol ffyngau sy'n tyfu yn  systemau gwreiddiau eginblanhigion coed. Gall y rhain naill ai weithredu fel pathogenau, a lladd yr eginblanhigion, neu gynnig buddion fel gwell cyflenwad o faetholion a thrwy hynny gynyddu twf yr eginblanhigion.

Dyfarnwyd Gwobr Poster Bioleg Planhigion 2019 y New Phytologist i Anita yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Bioleg a Chadwraeth Drofannol (ATBC) ym Madagascar am ei gwaith, o'r enw:

Anita'n cynnal gwaith maes yn Panama.Anita'n cynnal gwaith maes yn Panama.Fungal-mediated plant-soil-feedbacks affect secondary succession of tropical rainforests.”

Dywedodd goruchwylwyr Anita ym Mhrifysgol Bangor, Dr Lars Markesteijn a'r Athro John Healey:

“Roeddem wrth ein bodd yn clywed y newyddion bod Anita Weissflog wedi ennill y wobr bwysig hon am ei chyflwyniad yng nghyfarfod yr ATBC ym Madagascar eleni. Mae ymchwil Anita yn amserol iawn o ystyried yr argyfwng datgoedwigo trofannol presennol a'i gyfraniad i'r argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae ei phroject wedi'i leoli yn Sefydliad Ymchwil Drofannol y Smithsonian, ein partner ymchwil ym Mhanama, a'i nod yw canfod pam a sut mae ffyngau yn bwysig yn rheoli newidiadau ym mha rywogaethau coed sy'n dominyddu coedwigoedd trofannol wrth iddynt adfywio yn dilyn aflonyddwch gan bobl. Mae ennill Gwobr Poster Bioleg Planhigion y New Phytologist yn fesur o gyrhaeddiad rhagorol ymchwil PhD Anita, a hefyd yn dwyn sylw at y maes pwysig hwn o ecoleg coedwigoedd trofannol. Mae'r ymchwil yma'n cyfrannu'n fawr at raddau BSc a MSc Coedwigaeth Prifysgol Bangor, sydd gyda'r gorau yn y byd.”

Enillodd Anita, sy'n dod o'r Almaen, un o efrydiaethau PhD Envision Prifysgol Bangor yn 2017. Cânt eu hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes gwyddor yr amgylchedd. Dewisodd Anita astudio ym Mangor am fod y project PhD a'r amgylchedd ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol yn cynnig cyfle delfrydol i astudio'r mecanweithiau sy'n siapio a chynnal amrywiaeth bywyd, sef ei phrif ddiddordeb ymchwil.

Mae'r New Phytologist Trust, sefydliad nid-er-elw annibynnol sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwyddor planhigion, yn dyfarnu Gwobr Poster Bioleg Planhigion y New Phytologist yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Bioleg a Chadwraeth Drofannol. Fe’i cynhaliwyd eleni ddechrau mis Awst yn Antananarivo, Madagascar. Roedd Anita yno i dderbyn ei gwobr.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2019

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor