Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Ymgyrchydd ffeministaidd o’r 1950au i ail-ymweld â’i Cause célèbre

Sheila Parry (Davies ar y pryd) yn ystod ei dyddiau coleg.Sheila Parry (Davies ar y pryd) yn ystod ei dyddiau coleg.

A hithau bellach dros ei 80, bydd Sheila Parry (Davies gynt), ymgyrchydd cynnar dros gydraddoldeb i fyfyrwyr benywaidd a chafodd ei diarddel o'r Coleg Normal yn 1953 oherwydd ei hymgyrchu, yn dychwelyd i Fangor (ddydd Gwener, 5 Medi 5.30) i drafod ei hatgofion o'r digwyddiadau a arweiniodd at y Coleg Normal yn cael ei drafod yn y senedd.  

Bydd Shelia Davies yn mynd i'r hen Goleg Normal, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Bangor, ar gyfer lansiad 'Back to Normal'. Mae hwn yn fersiwn Saesneg o Bywyd Normal a gyhoeddwyd yn 2011 sy'n rhoi golwg ar hanes y Coleg Normal, o safbwynt y myfyrwyr.

Cafodd ymateb y Coleg i ymgyrch am fwy o ryddid i'r myfyrwyr benywaidd, dan arweiniad Sheila Davies fel Llywydd Cyngor y Merched, sylw gan y cyfryngau cenedlaethol. Trafodwyd y mater hyd yn oed ar lawr Tŷ'r Cyffredin a chynhaliwyd ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Addysg.

Roedd gan fyfyrwyr gwrywaidd y Coleg fforwm i fynegi eu barn. Ond nid oedd gan y myfyrwyr benywaidd fawr ddim.  Roedd Cyngor y Merched newydd gael ei greu'r adeg honno ond dim ond cydnabyddiaeth arwynebol a gafodd gan awdurdodau'r coleg.

Daeth Sheila Davies i Fangor o'r Ystrad yn y Rhondda ac fe'i hetholwyd yn llywydd Cyngor y Merched oedd newydd ei ffurfio am y flwyddyn academaidd 52-53. Gwelodd fel nad oedd y Cyngor yn cael ei gynnull dim ond pan fyddai awdurdodau'r Cyngor ei angen, a gan fod ganddynt fwyafrif ar y Cyngor roeddent yn atal unrhyw benderfyniadau. Felly penderfynodd Sheila a chorff y myfyrwyr mai'r unig ffordd ymlaen oedd dilyn beth oedd undebau myfyrwyr eraill wedi'i wneud a gweithio gydag arweiniad Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (NUS).  Gyda chyngor a chymorth yr Undeb, lluniwyd deiseb dan ei harweinyddiaeth yn rhestru'r cwynion niferus am lymder rheolau'r Coleg fel yr oeddent yn effeithio ar ferched a chyflwynwyd y ddeiseb i'r Prifathro, Dr Richard Thomas.  

Byddai'r gofynion a nodwyd yn y ddeiseb ar ran myfyrwyr benywaidd yn ymddangos yn anhygoel i fyfyrwyr heddiw. Roeddent yn cynnwys pethau fel cael yr hawl i fynd allan heb orfod egluro lle roeddent yn mynd na gyda phwy, a bod eu goleuadau yn cael eu diffodd yn awtomatig am 10.45 yn lle 10.15!  Roedd gan fyfyrwyr gwrywaidd llawer mwy o ryddid i wneud beth bynnag yr oeddent eisiau.

Fel y mae Sheila ei hun yn cofio:

“Roeddwn yn edrych ymlaen at symud i ogledd Cymru ond, yn fuan ar ôl ymgartrefu ym Mangor, dechreuais brofi ymdeimlad cryf o anghyfiawnder ynglŷn â’r rheolau a’r cyfyngiadau a osodid ar ein gweithgareddau, a sylweddoli mai ni oedd ‘Sinderelas’ y bywyd cymdeithasol. Roeddem yn cymdeithasu â myfyrwyr y Brifysgol a Choleg y Santes Fair, ac roedd llawer llai o gyfyngiadau ar fyfyrwyr benywaidd y colegau hynny, ac ar y dynion wrth gwrs, nag oedd arnom ni.

“Roedd fy magwraeth wedi fy mharatoi i frwydro, ac roedd fy rhieni’n barod i’m cefnogi.”

Fel y mae Dr Tudor Ellis yn adrodd yn ‘Back to Normal’:

“Mewn ymateb i’r modd y gweithredodd wrth gyflwyno’r ddeiseb a’i phenderfyniad wedyn i wrthod cyfarfod â’r Prifathro heb gwmni ei chyd-fyfyrwyr, yn dilyn cyngor gan UCM, penderfynodd y Prifathro, ar 30 Ionawr 1953, anfon Sheila Davies adref.”

Mewn gwirionedd, diarddelwyd Sheila ychydig fisoedd cyn iddi gwblhau ei chwrs hyfforddi athrawon gwyddor tŷ. Gwnaeth yr awdurdodau ‘fwch dihangol’ ohoni, gan ddisgrifio’r mater fel un yn ymwneud ag unigolyn, yn hytrach na rhywun oedd yn cynrychioli corff o fyfyrwyr. Nid ystyriodd awdurdodau’r coleg y gofynion a nodwyd gan y rhai a oedd wedi llofnodi’r ddeiseb.

Ar ôl i'r Weinyddiaeth Addysg ymyrryd, bu modd i Sheila gwblhau ei chwrs mewn coleg arall. Fodd bynnag, araf fu’r symudiad tuag at gydraddoldeb i fyfyrwyr benywaidd. Nid enillodd merched fwy o ryddid hyd nes i Dr Jim Davies ddod yn Brifathro ar y Coleg Normal ym 1969 - newidiadau a groesawyd yn dawel pan gyflwynwyd hwy, heb unrhyw sylw.

Yn ôl Fred Jarvis, a oedd ar y pryd yn Llywydd UCM ac a fyddai wedyn yn dringo i rengoedd uchel Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, yn ei hunangofiant, ‘You Never Know Your Luck’ (2014), “Bu achos Sheila Davies yn fodd i ni (yn UCM) ddechrau trafodaeth agored ar yr holl fater ynglŷn ag agwedd colegau hyfforddi tuag at eu myfyrwyr, agwedd na châi ei goddef pe bai prifysgolion yn ei chymryd.  O hynny allan, gwella wnaeth y sefyllfa yn y colegau.” (tud. 59)

Erbyn hyn mae'r llyfr wedi cael ei gyfieithu i'r Saesneg gan yr awdur, Dr Tudor Ellis, cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal, a chaiff 'Back to Normal' ei lansio mewn digwyddiad yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor am 5.30 ar 5 Medi.  Mae 'Back to Normal' ar gael yn y siopau llyfrau am £12.99.  Gellir archebu copïau trwy anfon siec am £15.49 (yn cynnwys cost postio) yn daladwy i Brifysgol Bangor at Gillian Pritchard, yr Ysgol Addysg, Safle’r Normal, Bangor LL57 2PZ.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor