Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm Chwaraeon newydd

Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm yn swyddogol, yng nghwmni Arglwydd Abersoch, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol a'r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm yn swyddogol, yng nghwmni Arglwydd Abersoch, Cadeirydd Cyngor y Brifysgol a'r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol.Daeth yr Arglwydd Coe, yr un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i agor cyfleuster chwaraeon newydd yn swyddogol.

Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, agorodd Seb Coe gyfleuster tenis a phêl rwyd newydd yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor.

Mae'r dôm chwaraeon yn rhan o gynllun sy'n dal i fynd rhagddo o atgyweirio cyfleusterau chwaraeon y brifysgol a ddefnyddir gan fyfyrwyr a'r gymuned leol. Mae'r dôm yn cynnig cyfleusterau chwarae pêl rwyd a thenis dan do trwy gydol y flwyddyn heb orfod poeni am y tywydd. 

Costiodd yr adeiledd ychydig dros hanner miliwn o bunnoedd i'w adeiladu. Mae'n mesur 73m x 26m ac yn cynnwys dau gwrt tenis a phêl rwyd dan do maint llawn. Mae dau gwrt pêl rwyd eisoes gan Fangor sy’n golygu mai  dyma’r unig safle yn y rhanbarth sydd â 4 cwrt pêl rwyd.

Seb Coe yn cyfarfod ag athletwyr ifanc brwd y tu fewn i'r Dôm.Seb Coe yn cyfarfod ag athletwyr ifanc brwd y tu fewn i'r Dôm.Meddai Is-Ganghellor Bangor, yr Athro John G Hughes: “Rydym wrth ein bodd fod unigolyn mor amlwg ym myd chwaraeon â'r Arglwydd Coe yn dod i agor yr adeilad. Mae Bangor wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ddiweddar mewn datblygu cyfleusterau academaidd a chymdeithasol i fyfyrwyr sy’n gwneud y brifysgol yn lle hyd yn oed fwy deniadol iddynt”.

Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon  y brifysgol: “"Fel prifysgol a thrwy broses tendro Galw am Weithredu Chwaraeon Cymru gwelwyd dull cost effeithiol o wneud defnydd llawer gwell o rai o'r cyrtiau tenis allanol oedd o ansawdd gwael. Llwyddwyd i godi'r Dôm o fewn cyfnod byr iawn dros yr haf, gan olygu y bydd ar gael i'n myfyrwyr ac i ysgolion sy'n ymweld o'r tymor hwn ymlaen.  Mae codi'r dom yn cwblhau Cam 1 o'n project atgyweirio dau gam. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at Gam 2 fydd yn dechrau ychydig cyn y Nadolig."

Meddai Graham Williams, Rheolwr Rhanbarth y Gogledd Chwaraeon Cymru: "Yn 2012, trwy’r project Galw am Weithredu, cynigiodd Chwaraeon Cymru £1.5 miliwn o arian ychwanegol i wneud poblogaeth Cymru’n fwy egnïol ac iach.

Bu Seb Coe hefyd yn cyfarfod a chwaraewyr tenis.Bu Seb Coe hefyd yn cyfarfod â chwaraewyr tenis.“Trwy greu partneriaethau newydd megis y bartneriaeth hon gyda Phrifysgol Bangor a Phêl Rwyd Cymru mae’r project wedi ymdrechu i fynd i’r afael â rhwystrau, megis diffyg cyfleusterau addas i’w defnyddio, oedd yn atal cymunedau rhag mwynhau cyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon.

“Ychydig dros 12 mis wedyn rydym wrth ein bodd yn gweld y dom pêl-rwyd a thenis newydd yn cael ei agor yn swyddogol. Bydd yn cynnig cyfleusterau ar hyd y flwyddyn, nid dim ond i’r boblogaeth myfyrwyr ond i ysgolion a thrigolion y cymunedau lleol. Credwn y gall y math hwn o broject gael effaith fawr yn enwedig ar ferched, ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y caiff y cyfleuster chwaraeon blaengar a hyblyg hwn ei ddefnyddio yn y dyfodol..”

Cyfrannodd Chwaraeon Cymru £80,000 tuag at y project.

Y bwriad yw agor y cyfleusterau chwaraeon ar eu newydd wedd erbyn haf 2014. Byddant yn cynnwys campfa ddeulawr newydd sbon, stiwdio aerobeg newydd, ystafelloedd newid cyhoeddus a chawodydd newydd a gwell, a llawr newydd yn y brif neuadd chwaraeon.

Meddai Lucy Murray-Williams, Swyddog Datblygu Pêl-rwyd Gogledd Orllewin Cymru sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r dom yn cynnig gofod yr oedd gwir angen amdano lle gallwn ddatblygu pêl-rwyd ymysg pobl ifanc a sicrhau bod gennym le i glybiau ac ysgolion hyfforddi yn y dyfodol - fel rheol mae'n rhaid i ni gystadlu am le mewn neuaddau chwaraeon â thimau pêl droed pump bob ochr ond bydd cael ein lle pwrpasol ein hunain yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r genhedlaeth nesaf o bêl-rwydwyr yng Ngogledd Cymru".

Mae ffilm fer o adeiladu'r Dôm ar gael yma a ffilm o'r Agoriad (yn Saesneg) yma.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor