Ysgol St Gerard's ar Ben y Fainc!
Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Pen y Fainc eleni, a gynhelir gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor.
Caiff y Gystadleuaeth Genedlaethol i rai 14-16 oed ei rhedeg gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad.
Curodd tîm Ysgol St Gerrard’s naw Tîm arall i ennill y cyfle i ymweld â'r Adran Cemeg ym Mhrifysgol Loughborough i gymryd rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir ar 29 Ebrill 2017.
Meddai Dr Lorrie Murphy o Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor: "Cawsom ein plesio'n fawr gyda lefel y wybodaeth gemeg a ddangoswyd gan bob un o'r ysgolion a ddaeth i gystadlu. Roedd yr ornest ranbarthol unwaith eto eleni yn un agos iawn. Dymunwn bob llwyddiant i St Gerard's yn Loughborough yn Ebrill. Y sgôr a enillodd oedd 53/70 sy'n dda iawn."
Roedd Techniquest Wrecsam yn bartneriaid newydd eleni gan alluogi i ysgolion o fwy o bellter nag erioed o'r blaen gymryd rhan. Gwnaed hyn drwy ddefnyddio sesiynau Skype ar gyfer y cyflwyniad a'r diweddglo - tra cynhaliwyd y cwis yr un pryd ar y ddau safle.
Daeth wyth tîm i Fangor ac roedd dau dîm yn Techniquest yn Wrecsam.
Yr ysgolion a gymerodd ran oedd:
Ysgol Maes Garmon
Ysgol Uwchradd Penarlâg
Ysgol St Gerard's
Ysgol St Brigid
Ysgol Friars
Ysgol Aberconwy
St Davids College
Rydal Pehrhos (enillwyr y llynedd)
Ysgol Tryfan
Ysgol Gyfun Llangefni
I gael mwy o wybodaeth am ein holl ddigwyddiadau i ysgolion, ewch i'r adran i ysgolion ar wefan Cemeg.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017