Cynnal a Chadw’r Adeiladau
Mae’r uned cynnal a chadw'n gwneud amrywiol waith trwsio a chynnal a chadw ar holl ystâd y Brifysgol gyda'r gweithlu mewnol a chontractwyr arbenigol cymeradwy dnabyddedig eraill, fel bo’n briodol. Fel rheol, wrth wneud gwaith cynnal mae angen ystyried nifer o faterion deddfwriaethol a rhai sy’n gysylltiedig ag yswiriant a diogelwch, ac felly mae’n bwysig gwneud cais trwy'r Ddesg Gymorth am unrhyw waith cynnal a chadw.
Ar hyn o bryd mae'r holl waith cynnal sydd wedi’i gynllunio wedi’i gyfyngu i'r gwaith hwnnw sy'n hanfodol i gynnal diogelwch a gweithrediad yr adeiladau a'r seilwaith cysylltiedig.
Weithiau mae'n amhosib ond ceisiwn beidio â defnyddio peiriannau a chyfarpar sy'n tarfu ar bobl sy'n astudio, yn gweithio neu'n cysgu. Er mwyn helpu rhaglennu tasgau a pheidio â tharfu ar neb, gofynnwn yn garedig i'r adrannau academaidd a'r gwasanaethau roi amserlen i ni sy'n nodi lleoliad ac amseriad unrhyw ddigwyddiadau, arholiadau neu bethau eraill lle bydd angen i'r peiriannau dewi.