Gwasanaethau Mecanyddol a Thrydanol
Mae'r adran fecanyddol a thrydanol yn gyfrifol am reoli a gwneud gwaith atgyweirio ac ymchwilio i faterion, fel colli pŵer, goleuadau, gollyngiadau a namau o ran gwresogi. Maent hefyd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw cynllunedig ar osodwaith a dosbarthiant mecanyddol a thrydanol amrywiol. Mae'r tîm yn defnyddio'r gweithlu mewnol, contractau tymor penodol a chontractwyr cynnal a chadw arbenigol, i sicrhau bod yr ystâd yn cael ei chynnal a'i chadw mewn cyflwr sy'n ddiogel ac sy'n cydymffurfio.
Caiff contractwyr arbenigol eu caffael fel bo'n briodol er mwyn cyflawni'r rhwymedigaethau deddfwriaethol. Mae'r contractau hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, y larymau tân, y larymau diogelwch, y lifftiau, y drysau awtomatig, cynnal a chadw bwyleri a goleuadau argyfwng. Mae'r tîm hefyd yn trefnu archwiliadau yswiriant statudol a phrofion ar gyfer offer nwy, dŵr a thrydan.
Weithiau does dim dewis ond ceisiwn beidio â defnyddio peiriannau a chyfarpar a allai darfu ar neb o ran astudio, gweithio neu gysgu. Er mwyn helpu rhaglennu tasgau a pheidio â tharfu ar neb, gofynnwn yn garedig i'r adrannau academaidd a'r gwasanaethau roi amserlen i ni sy'n nodi lleoliad ac amseriad unrhyw ddigwyddiadau, arholiadau neu bethau eraill lle bydd angen i'r peiriannau dewi.