Cymorth sydd heb fod yn Frys
Mi allwch chi wneud unrhyw ymholiadau neu holi am gymorth nad yw'n argyfwng ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'r Ganolfan Rheoli Diogelwch dros y ffôn, neu drwy alw i yn un o'r cabanau diogelwch. Bydd y Ganolfan Rheoli Diogelwch naill ai’n rhoi cyngor neu’n trefnu cymorth.
Os nad yw eich galwad chi'n fater o frys, cysylltwch â ni ar 01248 382795 neu estyniad 2795.
Mae'r brif Ganolfan Rheoli Diogelwch wedi'i lleoli yn Pontio. Mae rhywun yn y caban 24 awr y diwrnod Mae ail gaban ym Mhentref y Myfyrwyr ar Safle Ffriddoedd ac mae staff diogelwch ym Mhentref y Myfyrwyr ar safle'r Santes Fair.