Ailgylchu a Sbwriel
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i wella’r amgylchedd yn barhaus. Cefnogwch hyn drwy ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl er mwyn lleihau maint y gwastraff sydd yn gyffredinol.
Mae canolfannau gwastraff ac ailgylchu cyffredinol ym mhob adeilad a chânt eu gwagio'n rheolaidd. Mae'r staff yn gyfrifol am fynd â'u gwastraff o'u swyddfeydd i'r canolfannau canolog ac yn yr un modd y myfyrwyr sy'n byw yn y neuaddau i'r cyfleusterau a ddarperir yn y ceginau. Rhaid ymdrin â gwastraff cyfrinachol ar wahân ac ni ddylai byth fynd i mewn i wastraff neu ailgylchu cyffredinol.
Cynhelir gwaith casglu sbwriel yn rheolaidd ledled y campws ond rhowch wybod i ni os ydych yn sylwi ar unrhyw dipio anghyfreithlon, gwydr wedi torri neu broblemau ysbwriel penodol.
Gellir trefnu bod dodrefn, eitemau trydanol bach a llwythi mawr o gardbord yn cael eu hailgylchu drwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth.