Fframio dull iechyd cyhoeddus i niwed drwy gamblo yng Nghymru: Heriau a chyfleoedd

Mae gwaith ar y cyd, a gyhoeddwyd gan dîm dan arweiniad yr Athro Robert Rogers, Prifysgol Bangor, gyda chydweithwyr o Iechyd y Cyhoedd Cymru, Heather Wardle Research Ltd a Phrifysgol Abertawe, yn tynnu sylw at y niwed mawr y gall gamblo ei achosi, nid yn unig i’r rhai sy’n gamblo, ond hefyd i’w teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau. Mae gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel blaenoriaeth o ran iechyd y cyhoedd.

Mae’r gwaith yn cynnwys dau adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019:

1. Mae Gamblo fel mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi’i gyhoeddi ar y cyd gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n rhoi trosolwg o gamblo fel mater iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Cliciwch i weld yr adroddiad a’r ffeithlun.
2. Mae Fframio dull iechyd cyhoeddus i niwed drwy gamblo yng Nghymru: Heriau a chyfleoedd yn adroddiad hirach a mwy manwl a gyhoeddir yn annibynnol gan Brifysgol Bangor sy’n darparu dadansoddiad manwl o’r hyn rydym ni’n ei wybod am gamblo yng Nghymru, am agweddau perthnasol o’r ddadl gyfredol ynghylch polisi gamblo (peiriannau, hysbysebu a thechnoleg), am natur niwed gamblo, am ddulliau iechyd y cyhoedd o ymdrin â gamblo ac am ddulliau i leihau’r niwed a cheir trafodaeth hefyd am bolisi yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Mae Prifysgol Bangor hefyd wedi creu map mynegai risg rhyngweithiol i gyd-fynd â’r adroddiad.

Edrych ar pa mor agored i niwed yw pobl fesul ardal i niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru

Er mwyn helpu i edrych ar sut mae perygl niwed gamblo yn amrywio ar draws cymunedau Cymru, comisiynwyd Geofutures Ltd i ddatblygu map mynegai risg o niwed gamblo. Mae’r map yn dangos sut mae ffactorau risg cymdeithasol, iechyd ac economaidd o ran gamblo’n debygol o gael eu dosbarthu ledled Cymru. Nid yw’n dangos lle mae problemau gamblo’n digwydd. Yr unig beth mae mapio geo-ofodol fel hyn yn ei ddangos yw amcangyfrif o’r tebygolrwydd risg y ceir problemau gamblo yn y boblogaeth yn seiliedig ar gryfder y cysylltiadau yr adroddir amdanynt yn y llenyddiaeth. Mae’r map yn dangos lle ceir nifer fwy o bobl yng Nghymru sydd o bosibl yn agored i niwed gamblo.

Gwelwch y mapiau mynegai risg ac edrych ar wahanol ardaloedd yng Nghymru

Nod y map risg yw helpu awdurdodau trwyddedu a gweithredwyr yn y diwydiant i gynhyrchu asesiadau risg lleol (sydd bellach yn ofyniad rheoleiddiol), ac i ddefnyddio’r ddealltwriaeth hon o’r risg lleol i amddiffyn pobl sy’n agored i niwed trwy ddatblygu polisïau a gweithdrefnau priodol. Mae’r map yn seiliedig ar nifer y boblogaeth ynghyd â nodweddion demograffig ac economaidd-gymdeithasol sy’n pennu’r risg o niwed gamblo, ac nid ar gyfraddau mynychder lleol.

Ceir manylion llawn am sut y cafodd y map ei greu ynghyd ag amlinelliad o’r math o ddata a ddefnyddiwyd gan gynnwys cryfderau a gwendidau’r data yn yr adroddiad technegol.

Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg mae’r map ar gael. Os hoffech drafod y map yn Gymraeg, cysylltwch ag un o’r awduron isod.

Awduron

Mae awduron y gwaith hwn yn cynnwys:

  • Yr Athro Robert Rogers, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor (r.rogers@bangor.ac.uk)
  • Dr Heather Wardle, Faculty of Public Health and Policy, London School of Hygiene and Tropical Medicine (a Heather Wardle Research)
  • Dr Catherine Sharp, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Simon Dymond, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Abertawe
  • Dr Timothy Davies, Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor
  • Yr Athro Karen Hughes, Cyfarwyddiaeth Rhyngwladol a Pholisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
  • Sara Wood, Cyfarwyddiaeth Rhyngwladol a Pholisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddiaeth Rhyngwladol a Pholisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor

Comisiynwyd ac ariannwyd y gwaith hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Sefydliad GIG yw Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cynnig cyngor a gwasanaethau iechyd cyhoeddus sy’n annibynnol a phroffesiynol, i amddiffyn a gwella iechyd a lles pobl Cymru. Cynhyrchwyd yr adroddiad dan nawdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Serch hynny, mae’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r awduron ac ni ddylid tybio eu bod yr un fath â safbwyntiau Iechyd Cyhoeddus Cymru.