Newyddion Diweddaraf

SYMUD - Rhoi Ymchwil ar Waith

Bellach gall cleifion hemodialysis wneud mwy o ymarfer corff wrth dderbyn triniaeth i achub bywyd, diolch i wefan newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ymarfer corff.

Mae'r Ffisiolegwyr Ymarfer, Dr Jennifer Cooney a Dr Jamie Macdonald o Ganolfan PAWB Prifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi eu hymchwil ar waith drwy greu SYMUD, gwefan ac adnoddau sy'n helpu pobl sydd â chlefyd yr arennau deimlo'n well trwy symud mwy, er eu bod yn gorfod treulio llawer iawn o amser ar eu heistedd tra maent yn derbyn triniaeth hanfodol i achub bywyd. 

Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019

New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk

Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019

Exercise can fast-track your workplace well-being - here's how

Dyma erthygl yn Saesneg gan  Myfyrwraig ymchwil PhD Rhi Willmot o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019

Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau

Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia).  Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen.  Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Grŵp Ymchwil Eithafion) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018

Obese people enjoy food less than people who are lean – new study

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Hans-Peter Kubis o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol a'r papur ymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2018