Newyddion: Mehefin 2019
Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!
Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi'i ddewis ar gyfer Tîm Rygbi'r Gynghrair Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i Dîm Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru ar gyfer Cystadleuaeth y Pedair Gwlad, a fydd yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 22-30 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019
Papur 'Cyntun yn y prynhawn yn gwella dygnwch perfformiad rhedwyr' yn 4ydd yng Ngwobrau Papurau Gorau EJSS
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi cynnig y dystiolaeth arbrofol gyntaf i ddangos y gall cyntun byr fod o fudd i berfformiad athletwyr dygnwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019
Santander yn hybu doniau pêl-droed merched Prifysgol Bangor
Aeth Magi Hughes a Charlotte Walker o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor ar daith einioes i Barcelona a stadiwm chwedlonol Camp Noufis Mawrth fel rhan o fenter Santander UK i gefnogi doniau'r merched mewn chwaraeon ac yn eu bywydau proffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn mynychu digwyddiad sgrinio'r gêm derfynol yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA
Cafodd dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor eu dewis ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth unigryw yn ddiweddar gan fwynhau sgrinio'r gêm derfynol yng Nghynghrair y Pencampwyr fel rhan o bartneriaeth Prifysgol Bangor gyda Phrifysgolion Santander.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2019