Rhagolwg
Graddiodd Nia o Brifysgol Bangor gyda BSc mewn Seicoleg yn 2003. Ar ôl gweithio ar gyfer prosiect cymunedol ac wedi sefydlu ei busnes ei hun dros y 4 blynedd nesaf dychwelyd Nia i Brifysgol Bangor yn 2007 i gwblhau Msc mewn ymchwil seicolegol. Ar hyn y o bryd maen Nia yn cwblhau ei PhD sy’n canolbwyntio ar werthusiad raglen rhiant ar gyfer teuluoedd risg uchel sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Yn ei hamser hamdden mae Nia yn parhau i ddatblygu eu busnes sy’n darparu gwasanaethau cadw llyfrau i fusnesau bach a chanolig, yn ogystal â mynychu cyfarfodydd rheolaidd fel cyfarwyddwr Caban Cyf, sefydliad dielw sydd â chyfleusterau cynadledda, caffi organig, a 14 o unedau busnes bach. Mae Nia wrth ei bodd yn gwneud Pilates a cherdded mynyddoedd yn y gogledd, ond yn bennaf mae hi’n caru ymlacio!
Diddordebau Addysgu
Ers dechrau ei PhD mae Nia wedi bod yn ymgymryd â dyletswyddau dysgu dan arweiniad Dr Tracey Lloyd. Roedd PhD Nia a ariennir o dan y cynllun Mantais sydd a’r nod o gynyddu nifer o staff academaidd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae'r holl addysgu mae hi wedi ei wneud yma wedi bod gyda’r myfyrwyr Cymraeg. Mae Nia bellach yn gyswllt addysgu yn yr Ysgol Seicoleg, ac mae wedi bod yn cyflwyno sesiynau grwpiau bach i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf a’r ail. Mae Nia ac aelodau eraill o’r tîm addysgu try gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd yn ysgrifennu modiwl newydd, ac mae hi’n edrych ymlaen at gyfrannu at ddatblygiad y ddarpariaeth cyfrwng Gymraeg yn yr adran.
Diddordebau Ymchwil
Diddordebau ymchwil Nia yw ymyrraeth gynna ac yn enwedig y gweithredu ymyriadau gydag aelodau risg uchel a bregus yn y gymuned yng Nghymru.
Gwybodaeth Cyswllt
Darlithydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Uwch-diwtor a swyddog anableddau ar gyfer Seicoleg
Cadeirydd y grwp sgiliau a dulliau ymchwil
Ysgol Seicoleg
Ystafell 113 Adeilad Wheldon
Prifysgol Bangor
Deiniol Road
Bangor
Gwynedd
Wales
U.K.
LL57 2UW
01248 382543
@niagriffith
Cyhoeddiadau
2017
- Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
- Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException
2013
- Cyhoeddwydjava.lang.NullPointerException