Yr Athro Angharad Price
Athro mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol

Rhagolwg
Mae Angharad Price yn academydd ac awdur sydd wedi cyhoeddi'n helaeth ym maes llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern a'r cyfnod modern cynnar, yn aml mewn cyswllt a chyfandir Ewrop.
A hithau wedi graddio mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (lle cwblhaodd hefyd draethawd DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd), mae ei hymchwil academaidd yn aml yn pontio rhwng llenyddiaeth y Gymraeg a llenyddiaethau Ewropeaidd eraill. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o nofelau, dramau a chyfrolau o ysgrifau, ac wedi cyfarwyddo llu o draethodau PhD mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol ac astudiaethau cyfieithu. Mae ei diddordebau ymchwil yn y meysydd hyn yn rhan annatod o'i gwaith dysgu a darlithio ar lefelau BA ac MA.
Penodwyd hi'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor yn y flwyddyn 2006 ac fe'i dyrchafwyd yn Athro yno yn 2014.
Ymhlith ei phrif gyhoeddiadau ymchwil mae Rhwng Gwyn a Du (2002), sef astudiaeth ar ryddiaith Gymraeg diwedd yr ugeinfed ganrif a Ffarwél i Freiburg (2013), astudiaeth ar waith cynnar T. H. Parry-Williams a enillodd Wobr Syr Ellis Griffith yn 2014 ac a osodwyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yr un flwyddyn. Ei chyfrol academaidd ddiweddaraf yw Gororion: Llen Cymru yng Nghyfandir Ewrop (2023), casgliad o ysgrifau sy'n edrych ar gysylltiadau llenyddol rhwng Cymru a'r cyfandir. Hi yw golygydd Chwileniwm: Llenyddiaeth a Thechnoleg (2002), a chyd-olygodd Translation Studies: Special Issue Wales gyda Helena Miguelez-Carballeira a Judith Kaufmann yn 2016. Bu'n aelod o fwrdd golygyddol O'r Pedwar Gwynt, Ysgrifau Beirniadol a Thrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Mae hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Etholwyd hi'n gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2015.
Yn rhinwedd ei gwaith fel awdur creadigol, enillodd ei nofel gyntaf, O! Tyn y Gorchudd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, yn ogystal a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2003. Mae'r nofel wedi'i chyfieithu i chwe iaith. Cyrhaeddodd dwy nofel nesaf Angharad, Caersaint (2010) a Nelan a Bo (2024), yn ogystal a'i chyfrol o ysgrifau, Ymbapuroli (2021), i gyd Restr Fer gwobr Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd yn awdur dwy ddrama, sef Nansi (2016), enillydd drama Gymraeg orau Gwobrau Theatr Cymru yn 2017, a Congrinero a fu ar daith ledled Cymru ddechrau 2025.
Yn 2014 dyfarnwyd iddi Fedal Glyndwr am gyfraniad neilltuol i'r celfyddydau yng Nghymru.
Gwybodaeth Cyswllt
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol Bangor
Bangor
LL57 2DG
a.price@bangor.ac.uk
+44 (0)1248 382097
Cymwysterau
- DPhil mewn Astudiaethau Celtaidd
Oxford University, 1995–1998 - BA mewn Ieithoedd Modern
Oxford University, 1990–1994
Addysgu ac Arolygiaeth
Modiwlau israddedig
- Theatr Fodern Ewrop
- Rhyddid y Nofel
- Gweithdy Rhyddiaith
- Y Theatr Gymraeg Fodern
- Traethawd Estynedig
MA
MA yn y Gymraeg
MA mewn Ysgrifennu Creadigol
PhD
Wedi cyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:
- 2008 Judith Kaufmann (Astudiaethau Cyfieithu)
- 2010 Non Meleri Hughes (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2011 Sian Owen (Ysgrifennu Creadigol)
- 2011 Rhodri Llyr Evans (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2012 Dylan Rees (Ysgrifennu Creadigol)
- 2013 Elin Gwyn (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2014 Eiddwen Jones (Ysgrifennu Creadigol)
- 2015 Meg Elis (Ysgrifennu Creadigol)
- 2019 Samuel Jones (Llenyddiaeth Gymraeg ac Astudiaethau Cyfieithu)
- 2019 Cefin Roberts (Ysgrifennu Creadigol)
- 2021 Elis Dafydd (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2021 Ruth Richards (Llenyddiaeth Gymraeg a ffotograffiaeth)
Wedi cyd-gyfarwyddo traethodau PhD llwyddiannus y myfyrwyr isod:
- 2008 Eleri Hedd James (Llenyddiaeth Gymraeg)
- 2009 Geraldine Lublin (Llenyddiaeth Gymharol)
- 2014 Adam Pearce (Astudiaethau Cyfieithu)
- 2016 Sian Northey (Ysgrifennu Creadigol)
Ar hyn o bryd yn cyfarwyddo traethodau PhD y myfyrwyr isod:
- Angharad French (Ysgrifennu Creadigol)
- Rosie Dymond (Llenyddiaeth Gymraeg)
Diddordebau Ymchwil
- Rhyddiaith Gymraeg
- Ysgrifennu creadigol
- Llenyddiaeth gymharol
- Y Dadeni
- Astudiaethau Cyfieithu
Projectau
-
T.H. Parry Williams and Welsh Modernism
01/02/2010 – 13/06/2011 (Wedi gorffen)