
Modiwl CXC-1005:
Ysgrifennu Cymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Gofynnir i fyfyrwyr lunio darn byr o Gymraeg (rhyw 1½ ochr A4) yn wythnosol. Weithiau bydd y dasg a osodir yn ffeithiol ei gogwydd – cyfieithiad, crynodeb, erthygl ar gyfer papur newydd – dro arall bydd yn fwy creadigol – stori fer, portread, darn o ddialog. Caiff y darn hwn ei farcio’n fanwl a bydd y tiwtor yn trafod ansawdd yr ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Y mae cryn bwyslais yma felly ar yr elfen lafar. Yn ogystal â thrafod pynciau gramadegol byddir hefyd yn ymdrin â gofynion genres arbennig o ran arddull a chywair.
Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith.
Cynnwys cwrs
Gofynnir i fyfyrwyr lunio darn byr o Gymraeg (rhyw 1½ ochr A4) yn wythnosol. Weithiau bydd y dasg a osodir yn ffeithiol ei gogwydd – cyfieithiad, crynodeb, erthygl ar gyfer papur newydd – dro arall bydd yn fwy creadigol – stori fer, portread, darn o ddialog. Caiff y darn hwn ei farcio’n fanwl a bydd y tiwtor yn trafod ansawdd yr ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Y mae cryn bwyslais yma felly ar yr elfen lafar. Yn ogystal â thrafod pynciau gramadegol byddir hefyd yn ymdrin â gofynion genres arbennig o ran arddull a chywair.
Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Dylai'r darnau wythnosol a pherfformiad llafar y myfyrwyr ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau gramadegol a llenyddol. Dylid hefyd ddangos gwybodaeth am arddulliau a chyweiriau gwahanol a'u perthynas ag amrywiol genres llenyddol. Yn ogystal dylai myfyrwyr ddangos gallu i gymhwyso'r wybodaeth ramadegol a llenyddol hon at eu gwaith ysgrifenedig eu hunain.
da
B- i B+: Dylai'r darnau wythnosol a pherfformiad llafar y myfyrwyr yn y seminarau ddangos gafael dda ar eirfa, cystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau gramadegol a llenyddol. Dylai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth dda o ofynion gwahanol genres o ran cywair ac arddull ac o'r modd y gellir defnyddio'r fath wybodaeth i sicrhau lliw ac amrywiaeth yn eu hysgrifennu eu hunain. Dylent ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
ardderchog
A- i A*: Dylai'r darnau wythnosol a pherfformiad llafar y myfyrwyr yn y seminarau ddangos gafael gadarn ar eirfa, cystrawen a theithi'r Gymraeg, yn ogystal ag ar dermau gramadegol a llenyddol a phriod-ddulliau'r iaith. Dylid hefyd ddangos gwybodaeth drylwyr am arddulliau a chyweiriau gwahanol a'u cyd-destunau llenyddol priodol, a gallu datblygedig i fanteisio i'r eithaf ar yr wybodaeth hon mewn darnau ffeithiol a chreadigol. Bydd y farn bersonol a fynegir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn un annibynnol ac aeddfed sy'n dangos gallu i ddatblygu syniadau'n glir ac yn rhesymegol.
Canlyniad dysgu
-
Disgrifio a dadansoddi pynciau gramadegol a'u cymhwyso at eu hysgrifennu eu hunain.
-
Dadansoddi'n ramadegol y gwahaniaethau rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig a thrafod pynciau gramadegol ac ieithyddol yn hyderus ar lafar.
-
Defnyddio'r cywair a'r arddull gywir yn ôl gofynion genre arbennig.
-
Manteisio'n feirniadol ar y profiad a enillwyd o gael y cyfle i lunio darnau creadigol ochr y ochr â darnau ffeithiol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyno Wythnosol | 100 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 178 | |
Seminar | 2 awr seminar x 11 |
22 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 2 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)