Modiwl CXC-1033:
O'r Senedd i'r Swyddfa
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Mae ‘O’r Senedd i’r Swyddfa’ yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithleoedd dwyieithog yng Nghymru. Yn y gweithleoedd mwyaf blaengar ceir cynlluniau cyffrous sy’n datblygu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn y gwaith. Nid yw’r ‘rhoi’r iaith yn y gwaith’ yn dasg hawdd serch hynny; y mae traddodiadau gwaith, pwysau gwaith, a diffyg hyder staff - yn cynnwys siaradwyr Cymraeg rhugl - i ddefnyddio’r Gymraeg wrth eu gwaith yn heriau y mae angen eu goresgyn. Fodd bynnag, drwy gyfuniad o gynllunio bwriadus, hyfforddiant effeithiol, dealltwriaeth o ‘seicoleg gweithle dwyieithog’ ac adnoddau arloesol, y mae modd rhoi lle amlwg i’r Gymraeg yng ngweithleoedd Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Amcan y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eu galluogi maes o law i gyfrannu at y broses o gynllunio a chynnal y Gymraeg o fewn byd gwaith. Y mae’r modiwl yn tywys myfyrwyr drwy’r broses o gynllunio a gweithredu strategaethau iaith mewn gweithleoedd gan roi blas iddynt hefyd o realiti’r broses drwy ddeuddydd o leoliad gwaith yn un o adrannau’r Brifysgol. Wedi dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn deall gwerth eu sgiliau Cymraeg eu hunain mewn cyd-destun proffesiynol ac yn deall hefyd sut i fynd ati i sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg mewn gweithle lle y mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio.
Cynnwys cwrs
Y mae’r broses o sicrhau lle i’r Gymraeg mewn gweithleoedd yn daith sy’n cwmpasu pedair thema:
- Cynllunio: gosod gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg drwy strategaethau a pholisïau a sicrhau bod cyfansoddiad y gweithlu, drwy’r broses recriwtio, yn mynd i ganiatáu i’r Gymraeg gael ei defnyddio.
- Hyfforddiant: arfogi’r gweithlu gyda’r sgiliau iaith Gymraeg angenrheidiol.
- Newid Ymddygiad: wedi i staff ddatblygu sgiliau iaith, creu amgylchedd sydd yn eu hannog i ddefnyddio’r sgiliau hynny.
- Adnoddau: datblygu a hyrwyddo adnoddau er mwyn hwyluso a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
Y themâu hyn (cynllunio, hyfforddiant, newid ymddygiad ac adnoddau) fydd conglfeini’r modiwl a bydd y sesiynau wythnosol yn tywys y myfyrwyr drwy wahanol agweddau arnynt.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (-D - D+)
Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%)**
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol.
-
Gwaith yn dangos gallu elfennol i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
Tasg Asesu 2 : Adroddiad (40%) (Deilliannau dysgu 1-6)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth elfennol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol elfennol.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd sylfaenol o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
Tasg Asesu 3: Ymdriniaeth ddadansoddol (40%)

da
Da (-B - B+)
Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth foddhaol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth foddhaol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar proffesiynol yn effeithiol yn y rhan fwyaf o’r cyflwyniad.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
Tasg Asesu 2: Adroddiad (40%)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth foddhaol o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn dangos dealltwriaeth foddhaol o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth foddhaol o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd boddhaol a chyson o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.

ardderchog
Rhagorol (-A - A)**
Tasg Asesu 1: Cylfwyniad (20%)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd.
-
Gwaith yn dangos gallu i gynllunio a strwythuro cyflwyniad llafar meistrolgar ac effeithiol drwyddi draw.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
Tasg Asesu 2: Adroddiad (40%)
-
Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gref o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn dangos dealltwriaeth gadarn o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog.
-
Gwaith yn adlewyrchu dealltwriaeth gref o sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithle.
-
Gwaith yn amlygu sgiliau ymchwil personol cadarn ac effeithiol iawn ar ei hyd.
-
Gwaith yn adlewyrchu ymwybyddiaeth foddhaol o gywirdeb ac addasrwydd iaith.
-
Gwaith yn adlewyrchu defnydd cyson ac effeithiol iawn o adnoddau gramadegol ac arfau iaith cyfrifiadurol.
Tasg Asesu 3: Ymdriniaeth ddadansoddo (40%)

Canlyniad dysgu
-
- dangos dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu gweithle dwyieithog;
-
- dangos dealltwriaeth o’r broses o gynllunio a chynnal gweithle dwyieithog;
-
- defnyddio ieithwedd bwrpasol a graenus ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth gyflawni gwahanol dasgau;
-
- ymwneud yn effeithiol â staff mewn gweithleoedd;
-
- gwneud defnydd effeithiol o adnoddau cyfrifiadurol wrth baratoi a chyflwyno gwaith.
-
- archwilio ac arfarnu sut y mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i hwyluso mewn gweithleoedd;
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | 6 | |
Work-based learning | Gwaith maes – cyfnod o leoliad gwaith am 2 ddiwrnod yn un o adrannau’r Brifysgol. (2 x 8 awr) |
14 |
Lecture | Darlithoedd, cyflwyniadau a gweithdai – 2 awr yr wythnos yn Semester 2 |
18 |
Private study | 162 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran cyfarpar.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)