Modiwl LCF-1002:
Ffrangeg Uwch 2

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Languages, Literatures and Linguistics

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 2

Trefnydd: Mrs Sarah Goddard

Amcanion cyffredinol

  1. Gwella sgiliau cyfieithu a darllen a deall myfyrwyr drwy astudio testunau sy'n amrywio mewn arddull a chywair.
  2. Galluogi myfyrwyr i gynhyrchu darnau ysgrifennu ar lefel uwch mewn Ffrangeg.
  3. Gwella sgiliau llafar a gwrando uwch myfyrwyr trwy ymarferion sgwrsio a deunyddiau clyweledol dethol yn amrywio mewn cywair.
  4. Gwella geirfa a chynnwys ymadroddion sy'n gymhleth yn idiomatig mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.
  5. Datblygu dealltwriaeth fwy cymhleth o strwythurau gramadegol ar lefel uwch, a gallu defnyddio'r cyfryw gystrawennau gramadegol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
  6. Trafod ac amddiffyn dadleuon a syniadau mewn trafodaethau grŵp ac un-i-un.
  7. Deall agweddau allweddol sy'n sail i hunaniaeth gyfoes pobl Ffrangeg eu hiaith.

Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill B2 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).

Cynnwys cwrs

Mae'r modiwl hwn yn darparu parhad o LCF-1001, a'i nod yw gwella sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifenedig Ffrangeg myfyrwyr lefel uwch (ar ôl Lefel A). Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i wella'u sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol lefel uwch i ysgogi trafodaethau grŵp. Drwy gydol y modiwl, mae gan fyfyrwyr y cyfle hefyd i ymestyn eu gwybodaeth am feysydd gramadeg mwy cymhleth. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau, yn ogystal â gwella dealltwriaeth o wahanol acenion Ffrangeg. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Ffrengig penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.

Meini Prawf

trothwy

40-49%: Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth sylfaenol o'r ffynonellau Ffrangeg a astudir, a gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddealladwy.

da

50-69%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uwch ar y cwrs hwn nid yn unig wedi deall hanfodion y ffynonellau a astudir, ond byddant hefyd wedi dechrau ymglywed â manylion yr iaith. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain yn gywir ac yn strwythuredig ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos eu bod yn ymwybodol iawn o'r ffordd i ynganu Ffrangeg.

ardderchog

70+%: Bydd y myfyrwyr sy'n cael y graddau uchaf yn y cwrs hwn wedi deall y ffynonellau a astudir o ran geirfa anghyffredin a chystrawennau cymhleth. Byddant yn gallu eu mynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd ddychmygus, gywir, hynod drefnus a rhwydd.

Canlyniad dysgu

  1. Sgwrsio a gwrando ar Ffrangeg (yn cynnwys gwahanol acenion), ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.

  2. Defnyddio meysydd geirfa newydd a mynegiant idiomatig mwy cymhleth mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.

  3. Defnyddio strwythurau gramadegol ar lefel uwch mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.

  4. Cynhyrchu Ffrangeg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.

  5. Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Ffrengig.

  6. Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig mwy heriol, yn amrywio o ran arddull a chywair.

  7. Dangos hyder wrth dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
PRAWF DOSBARTH Gwrando ar fideo a'i ddeall

Prawf yn y dosbarth, sy'n cynnwys gwrando ar ffeil sain/ gwylio fideo, ac yna cwestiynau ysgrifenedig ac ymarfer crynhoi/ymateb hwy.

25
PRAWF DOSBARTH Arholiad llafar

Cyflwyniad llafar yn Ffrangeg (6 munud), ac yna cwestiynau ac atebion, gan gynnwys trafod y Portffolio Hunan-Astudio.

25
ARHOLIAD Arholiad 2 awr

Wedi'u strwythuro mewn dwy ran: 1) Cyfieithiad Cymraeg/Saesneg-Ffrangeg (tua 200-250 o eiriau) 2) Cyfieithu set o 10 brawddeg Ffrangeg i'r Gymraeg/Saesneg, a luniwyd i brofi strwythurau gramadegol mwy cymhleth.

50

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Private study 145
Seminar

4 seminar (1 awr) pob wythnos am 11 wythnos. 1 awr ychwanegol (trwy gyfrwng y Gymraeg) pob wythnos.

55

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach

Sgiliau pwnc penodol

  • 1. The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
  • 2. The ability to translate short passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 3. Engaging with, interpreting and critically evaluating short and longer contemporary texts (short stories, films, novels) in the target language (Benchmark statement 5. 8, and 5.9)
  • 4. Effective oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 5. The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing familiarity with a range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 6. Develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 7. The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)

Adnoddau

Rhestr ddarllen

Casgliad gramadeg (a ddarperir gan y darlithydd)

Casgliad wedi'i seilio ar destunau (a ddarperir gan y darlithydd)

Casgliad sgyrsiau llafar (a ddarperir gan y darlithydd)

Adnoddau Dysgu Eraill: Disgwylir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y modiwl hwn gwblhau Portffolio Hunan-astudiaeth cyd-gwricwlaidd yr Ysgol. Mae'r portffolio hwn yn annog myfyrwyr i ddarllen papurau newydd Ffrangeg a gwylio teledu Ffrangeg a ffilmiau Ffrangeg yn rheolaidd; dylent hefyd ddarllen un nofel Ffrangeg bob semester. Dylai myfyrwyr gwblhau un portffolio ar gyfer Ffrangeg bob semester.

Rhagofynion a Chydofynion

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: