Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Mae’r ysgoloriaethau, efrydiaethau a bwrsariaethau yn cael eu hariannu gan y Brifysgol a gan yr ysgolion academaidd unigol.

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd

Math Cymhwyster: PhD

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 07 Mehefin 2019

Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.

Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.

Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?

Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma

Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).

Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ysgolion 2019

Gwobrwyo Cyrhaeddiad Academaidd - bydd myfyrwyr sy'n dechrau cwrs gradd israddedig (BA, BSc, BMus, LLB) yn un o'r Ysgolion Academaidd isod ym mis Medi 2019 yn gymwys i gael Ysgoloriaeth MA.

  • Ysgol Busnes Bangor 
  • Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas
  • Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth
  • Ysgol y Gyfraith Bangor
  • Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau
  • Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Bydd yr ysgoloriaethau hyn ar gael i fyfyrwyr o'r DU a'r UE sydd:

  • wedi graddio o raglen israddedig yn un o'r Ysgolion hyn
  • wedi ennill gradd dosbarth 1af
  • yn mynd ymlaen i ymgeisio'n llwyddiannus am gwrs Meistr blwyddyn hyfforddedig (MA, MMus, MSc a LLM) yn un o'r Ysgolion uchod, ac wedyn yn cofrestru ar y cwrs hwnnw.

Bydd myfyrwyr sy’n cael gradd ddosbarth 1af yn cael eu heithrio’n awtomatig rhag talu 50% o ffioedd dysgu'r cwrs Meistr.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag:

Aimee Pritchard Robinson
E-bost: cahb@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 388418

 

Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ffurflen gais.

Thomas Ellis Memorial Fund

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £ 2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mehefin 2019.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Dwyieithrwydd

Math Cymhwyster: PhD

Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 07 Mehefin 2019

Swm cyllid: Mae’r efrydiaeth yn cynnwys cost lawn ffioedd dysgu ynghyd â thâl cynnal gwerth c.£15,000 y flwyddyn, am dair blynedd yr efrydiaeth.

Dyddiad Dechrau: 01 Hydref 2019

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Dwyieithrwydd. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor. Disgwylir i’r traethawd doethurol gael ei baratoi a’i gyflwyno yn y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth ar gael am gyfnod o dair blynedd ar gyfer ymchwil yn arwain at ddoethuriaeth. Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus hefyd wneud peth gwaith dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth fel un o amodau’r Ysgoloriaeth.

Lle gallaf i gael hyd i fwy o wybodaeth?

Am fanylion llawn am yr ysgoloriaeth dilynwch y cyswllt yma

Dylid cyfeirio ymholiadau am y project at: Dr Thora Tenbrink (t.tenbrink@bangor.ac.uk / 01248 382263).

Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad gyrfaol merched mewn gwyddoniaeth ac am y rheswm hwn mae Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth y Brifysgol yn cefnogi graddedigion sy'n ferched i barhau gyda'u hastudiaethau. Bydd mwy o wybodaeth am yr Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth 19/20 ar gael yn fuan.

Cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Am fwy o wybodaeth am y cynllun Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol cliciwch yma.

Disgownt teyrngarwch i raddedigion

Ysgoloriaeth Ymchwil Cyfrwng Cymraeg: Defnyddio’r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig ysgoloriaeth ymchwil PhD ym maes Seicoleg Newid Ymddygiad a Chynllunio Iaith. Cyllidir yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Bwrsariaeth Mynediad ôl-raddedig

Gall myfyrwyr fod yn gymwys i dderbyn Bwrsariaeth Mynediad Ôl-radd os oeddent yn derbyn un o’r canlynol neu’n ddi-waith cyn mynd i’r brifysgol:

  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru / Grant Cynhaliaeth
  • Bwrsariaeth Cyfle
  • Bwrsariaeth Foyer
  • Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal
  • Lwfans ceisio gwaith / Cymhorthdal Incwm

Rhaid i fyfyrwyr allu dangos tystiolaeth eu bod wedi derbyn y grantiau, bwrsariaethau neu fudd-daliadau hyn.

Dyfernir bwrsariaeth o hyd at £500 i fyfyriwr a oedd yn derbyn y grant mwyaf posib pan oeddent yn israddedigion neu roeddent yn ddi-waith.

Dyfernir £250 os oeddent yn derbyn grant rhannol pan oeddent yn israddedigion.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Cymorth Ariannol.

Bwrsariaethau Ehangu Mynediad ôl-radd

Mae’r bwrsariaethau yma wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan-amser. Am fwy o fanylion, cliciwch yma.

Ysgoloriaethau Cydraddoldeb Rhywiol

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau y Brifysgol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae niferoedd ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o ferched neu ddynion ar lefel ôl-raddedig mewn rhai meysydd. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg.

Beth mae'n ei gynnwys?

Telir ffioedd dysgu am gwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil un flwyddyn neu am ddwy flynedd os yw'n astudio'n rhan amser.

Ewch i dudalennau Athena Swan am fwy o wybodaeth. Dyddiad cau ceisiadau ydi dydd Gwener 28ain Mehefin 2019. Dylid danfon ceisiadau i sylw Lindsey Graham.

Addysgedau AALl

Fel rheol nid yw awdurdodau lleol yn cynnig cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, ond mae rhai yn rhoi ystyriaeth i rai cyrsiau penodol, fel cyrsiau TAR.

Mae’n eithaf peth i gysylltu â’ch awdurdod addysg lleol yn gynnar yn y flwyddyn i holi beth a fyddent yn ei gyllido. Byddai gennych fwy o siawns i gael cyllid os yw eich cwrs yn un galwedigaethol ond bydd rhaid i chi gyflwyno achos cryf i gael addysged.

Cysylltiadau Defnyddiol

Efallai y bydd y cysylltiadau yma yn ddefnyddiol i chi ymchwilio sut i gael cyllid ar gyfer eich cwrs: