Myfyrwyr yn gweithio mewn grŵp yn un o stafelloedd darllen traddodiadol y Brifysgol, yn y Prif Adeilad

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Pam Astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Efallai fod gennych ddiddordeb yn hanes cymdeithasol ieithoedd lleiafrifol a'u goroesiad yn y byd modern. Sut y goroesodd y Gymraeg y chwyldro diwydiannol? Beth oedd tynged y diaspora Cymreig yng ngogledd America a'u llenyddiaeth Gymraeg eu hunain? Beth am gymunedau Cymreig Patagonia yn yr Ariannin? Beth yw'r cysylltiad rhwng y Gymraeg a thwf cenedlaetholdeb yn y Gymru fodern? Sut mae'r traddodiad llenyddol Cymraeg wedi datblygu yn y cyfnod diweddar o amlddiwylliannedd a datganoli? Os yw cwestiynau o'r fath yn mynd â'ch bryd, cysylltwch â ni.

Mae Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor yn cynnal rhaglen gyfnewid gydag Adran Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd Prifysgol Harvard, sy'n galluogi myfyrwyr o'r naill sefydliad i dreulio semester yn astudio yn y llall. Mae Harvard yn un o sefydliadau addysgol mwyaf blaenllaw'r byd, ac yn ogystal â chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn y rhan fwyaf o feysydd y Dyniaethau, mae ei llyfrgelloedd yn cynnwys casgliadau rhagorol o ddeunyddiau Cymraeg a Chymreig.

Cyfleoedd Gyrfa mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Mae'n anodd meddwl am gyfnod mwy cyffrous, o safbwynt y farchnad waith, i raddedigion ym meddu ar gymhwyster da yn y Gymraeg. Gyda'r galw statudol ar ddisgyblion ysgol ledled Cymru i astudio'r Gymraeg hyd nes eu bod yn 16 oed, mae gwir alw am athrawon, cynradd ac uwchradd, gyda chymwysterau da yn y pwnc. Yn draddodiadol hefyd fe aeth amryw o'n graddedigion ymlaen, ar ôl cyfnod o ymchwilio ar gyfer gradd uwch, i ddysgu mewn colegau a phrifysgolion.

Ein Hymchwil o fewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau’r staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?