Myfyrwyr yn Llyfrgell Gymraeg

Cymraeg

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

Pam Astudio Cymraeg

Adran y Gymraeg yw un o'r rhai hynaf ym Mhrifysgol Bangor, ac ers ei sefydlu yn 1889 bu ei chyfraniad i fywyd llenyddol a diwylliannol Cymru yn gwbl allweddol.

Mae ein graddau anrhydedd yn cynnig llu o brofiadau gwerthfawr os ydych yn dymuno astudio cyrsiau sy’n ymwneud â’r Gymraeg fel pwnc, neu â meysydd theatr, newyddiaduareth neu’r cyfryngau. Gellir cyfuno gwahanol agweddau ar y meysydd hyn os ydych am wneud cyrsiau i ddilyn trywydd academaidd neu gyfuniad o’r academaidd a’r galwedigaethol.

Cewch eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau. Ymhlith ein staff presennol mae’r Prifeirdd Jason Walford Davies a Gerwyn Wiliams, ac mae Angharad Price a Jerry Hunter ill dau wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn ogystal â gwobr Llyfr y Flwyddyn. Yn arwain yr Ysgol, mae Peredur Lynch, y bardd caeth a'r beirniad Eisteddfodol adnabyddus.

Uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Astudiaethau Celtaidd NSS 2021)

Yn ei faes pwnc, mae Astudiaethau Celtaidd yn y 10 Uchaf yn y DU am Ddwysedd Ymchwil ac Ansawdd Ymchwil (The Complete University Guide 2022)

Yn ei faes pwnc, mae Astudiaethau Celtaidd yn 1af yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedig – canlyniadau(The Complete University Guide 2022)

Ein Hymchwil o fewn Cymraeg

Mae gan Adran y Gymraeg arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith aelodau’r staff mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Rydym yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.

Proffil fideo myfyrwyr - Branwen Roberts

Mae Branwen Roberts sy'n astudio Cymraeg ym Mangor, yn wreiddiol o Bontypridd. Mae hi'n byw yn Neuadd John Morris-Jones. Yma mae hi'n sôn am ei bywyd fel myfyrwraig ym Mangor.

Liam Smiling to Camera with beach backdrop

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Liam Evans

Mi oedd y dair blynedd wnes i dreulio ym Mhrifysgol Bangor o blith y gorau erioed. Yma ges i gyfle i ddysgu yr hyn oedd gen i wir ddiddordeb ynddo ac ehangu fy sgiliau. Mi oedd y brifysgol yn cynnig bob math o fodiwlau difyr a ges i gyfle i astudio meysydd hollol newydd. Roedd y gefnogaeth gan staff yn wych ac roeddwn yn teimlo eu bod wir yn rhoi y myfyrwyr wrth galon bob dim oedd yn digwydd.

PROFFIL CYN-FYFYRIWR Arddun Rhiannon

Gradd mewn BA Cymraeg

Astudiodd Arddun radd yn y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu i Mudiad Meithrin ac yn trafod y profiadau gwych a gafodd wrth astudio ym Mangor.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Cysylltu â ni

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?