Myfyrwyr yn Llyfrgell Gymraeg

Cymraeg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Cymraeg

Pam Astudio Cymraeg?

Mae traddodiad llenyddol di-dor Cymru yn cynnwys uchafbwyntiau canoloesol fel chwedlau'r Mabinogi (gan gynnwys y chwedlau Arthuraidd cynharaf), barddoniaeth arwrol Llyfr Aneirin a barddoniaeth serch a natur Dafydd ap Gwilym. Yn yr ugeinfed ganrif, rhoddodd awduron fel T. Gwynn Jones, Saunders Lewis, Kate Roberts a TH Parry-Williams gyfeiriad newydd deinamig i lenyddiaeth Cymru yn y cyfnod Modern, ac mae'r arbrofi hwnnw'n parhau, gan sicrhau bod estheteg unigryw Cymru'n gwneud cyfraniad allweddol i ystyriaethau diwylliannol lleol a rhyngwladol.

Efallai fod gennych ddiddordeb yn hanes cymdeithasol ieithoedd lleiafrifol a'u goroesiad yn y byd modern. Sut y goroesodd y Gymraeg y chwyldro diwydiannol? Beth oedd tynged y diaspora Cymreig yng ngogledd America a'u llenyddiaeth Gymraeg eu hunain? Beth am gymunedau Cymraeg Patagonia yn yr Ariannin? Beth yw'r cysylltiad rhwng y Gymraeg a thwf cenedlaetholdeb yn y Gymru fodern? Sut mae'r traddodiad llenyddol Cymraeg yn datblygu yn y cyfnod diweddar o amlddiwylliannedd a datganoli? Os yw cwestiynau o'r fath yn eich swyno, byddech chi'n gwirioni ar gwrs MA Cymraeg!

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Cymraeg

Mewn meysydd mor amrywiol ag addysg, cynllunio iaith, y cyfryngau a newyddiaduraeth, y gwasanaeth sifil, y diwydiant treftadaeth, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, mae galw mawr am raddedigion sydd â chymhwysedd yn y Gymraeg a'r gallu i weithio mewn amgylchedd dwyieithog. Bydd y rhai sy'n dymuno dilyn diddordebau academaidd yn ennill sylfaen gadarn i alluogi symud ymlaen i lefel PhD.

Ein Hymchwil o fewn Cymraeg

Mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau’r staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?