Hanes Prifysgol Bangor

Agor ei drysau yn 1884...

Agorwyd y Brifysgol mewn hen dafarn y goets fawr y m mis Hydref 1884. Sefydlwyd fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru gyda 58 myfyriwr a 12 aelod o staff academaidd.  

Darparwyd y graddau gan Brifysgol Llundain tan 1893 pan ddaeth Prifysgol Cymru Bangor yn un o dri aelod gwreiddiol Prifysgol Cymru.

Y lleoliad...

I gychwyn, roedd y Coleg wedi'i leoli mewn hen dafarn y goets fawr, gynt y Penrhyn Arms. Yn fuan iawn, daeth yn amlwg y byddai'n rhaid cael adeiladau mwy eu maint a rhai mwy cyfleus.  Ym 1903, cyflwynodd dinas Bangor safle 10 erw ym Mhenrallt uwchben y ddinas ar gyfer adeilad newydd, a chodwyd arian sylweddol gan y bobl leol i dalu amdano.  Gosodwyd carreg sylfaen yr adeilad hwn ym 1907, a phedair blynedd yn ddiweddarach agorwyd y prif adeilad, lle mae'r weinyddiaeth erbyn hyn, ynghyd â rhai o adeiladau'r celfyddydau a gwyddorau cymdeithas a rhan o'r Llyfrgell.

Arhosodd Adrannau'r Gwyddorau yn y Penrhyn Arms am bymtheng mlynedd arall. Yn 1926 symudodd yr adrannau i adeiladau pwrpasol a godwyd â chymorth Cronfa Goffa Glewion Gogledd Cymru.

Heddiw...

Heddiw, mae gan y Brifysgol dros 12,000 o fyfyrwyr a dros 2,000 o staff.

Mae Prifysgol Cymru, Bangor wedi ymrwymo i ddarparu dysgu o'r ansawdd uchaf, cynnal ymchwil o'r ansawdd uchaf, gofalu'n dda am ei myfyrwyr a chwarae rhan lawn yng nghymuned ehangach Cymru.

Prifysgol Bangor, 1884-2009

Mae llyfr newydd yn olrhain hanes diddorol Prifysgol Bangor rhwng 1884 a 2009 wedi ei gyhoeddi.

Ysgrifennwyd y llyfr gan Gofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts, i ddathlu 125 mlwyddiant y Brifysgol, ac mae'n olrhain ei thwf o'i chychwyn digon distadl ym mis Hydref 1884 fel 'Coleg Prifysgol Gogledd Cymru', gyda 58 o fyfyrwyr yn y Penrhyn Arms, hyd at ei statws presennol, yn brifysgol annibynnol â phwerau dyfarnu graddau a 14,000 o fyfyrwyr a staff.

Meddai Dr David Roberts: "Mae'n cofnodi'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau, y llwyddiannau a'r argyfyngau, y llwyddiannau a'r sialensiau yn hanes y Brifysgol. Yn ganolog i'r hanes, mae cyfraniadau'r ffigurau blaenllaw yn natblygiad y Brifysgol dros y blynyddoedd a datblygiad bywyd myfyrwyr ar y campws."

"Mae hon yn brifysgol sy'n cael nerth o'i hanes a'i gwreiddiau, ond hefyd yn un sydd wedi goroesi a thyfu wrth ymaddasu i amgylchiadau newidiol. Mae wedi wynebu llawer o sialensiau dros y blynyddoedd, fel y bydd, yn ddi-os, yn y dyfodol - ond mae'r ymrwymiad wrth y safonau uchaf o ddysg, ymchwil ac ysgolheictod yn gyson."

Mae'r llyfr ar gael yn Gymraeg neu'n Saesneg o siopau llyfrau, yn uniongyrchol gan y Brifysgol trwy ffonio 01248 382031 neu gan lyfrwerthwyr ar-lein.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?