Archif y Mis: Medi 2021
Llyfryn Sba Cryd Cymalau Neuadd Kinmel, c.1930au
Trawsnewidiwyd y neuadd o dy preifat i ganolfan iechyd i drin pobl â chryd cymalau gan Mrs Florence Lindley, a oedd gynt yn brifathrawes Coleg Lowther, yng Nghastell Bodelwyddan gerllaw. Roedd y sba yno tan ddechrau’r Ail Ryfel Byd, pan gymerwyd y neuadd drosodd fel ysbyty.
Mae Llawysgrifau Kinmel, a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol, yn gasgliad o 1809 o eitemau gydag amrywiol ddyddiadau gan ddechrau ym 1391 yn ymwneud ag ystâd Kinmel yn sir Ddinbych a sir y Fflint a fu’n eiddo i’r teulu Holland, wedyn i’r teulu Carter ac yna i’r teulu Hughes.
Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd