Ffilmio yn yr Archifau

Telerau ac amodau (yn cynnwys ffioedd)

Darllenwch yn drylwyr cyn cysylltu â ni i drefnu ffilmio.

Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn cynnig llawer o wasanaethau i'r wasg a'r cyfryngau.

Mae Darllenfa Shankland yn lle godidog ac yn lleoliad ffilm rhagorol. Byddai'n wych ar gyfer cynnal cyfweliadau mewn lleoliad urddasol neu academaidd.

Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau a Chasgliadau Arbennig yn croesawu criwiau teledu. Fodd bynnag, mae natur ein casgliadau yn golygu bod rhaid inni ystyried cwestiynau ynglŷn â hawlfraint, cadwraeth, gwarchod, iechyd a diogelwch a lles myfyrwyr felly ni allwn sicrhau mynediad at ein holl gasgliadau bob amser. Rydym felly yn cadw’r hawl i wrthod caniatâd i ffilmio heb roi rheswm.

Rhaid i'r cwmni / cynhyrchydd ffilm gytuno i:

  • Lenwi a llofnodi ffurflen gais am ganiatâd i gyhoeddi. Mae ffurflenni ar gael yn Ystafell Ddarllen yr Archifdy neu wrth wenud cais e-bost.
  • Cael caniatâd gan berchennog cyfredol yr hawlfraint os yw eitem o dan hawlfraint.
  • Cydnabod y Llyfrgell a'r Archifau fel ffynhonnell y cofnodion ar y sgrin yn y cydnabyddiaethau cloi ar ddiwedd y ffilm/rhaglen.
  • Parchu a chadw at ofynion diogelu a gofalu’r Llyfrgell a’r Archifau o ran trin dogfennau.

Rhoddir pob caniatâd i ddarllediadau teledu yn amodol ar gytundeb. Caiff cytundebau eu trafod gyda chi ar y cyd â Swyddfa Contractau'r Brifysgol, a bydd yn cynnwys y manylion a roesoch yn ystod y broses ymgeisio.

Bydd y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau a Chasgliadau Arbennig yn anelu at ymateb cyn gynted â phosibl i'ch cais, ond gall y broses o roi caniatâd gymryd peth amser, felly gofynnwn ichi gyflwyno ceisiadau ymhell cyn unrhyw ddyddiadau cau.

Mae croeso i'r cwmni / cynhyrchydd ffilm anfon eu hymchwilydd eu hunain i ystafell darllen yr Archifau a Chasgliadau Arbennig. Ewch i'n tudalennau ar y we i gael manylion am sut i gofrestru fel darllenydd gyda'r Archifau a Chasgliadau Arbennig.

Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn darparu gwasanaeth sganio i gwmnïau / cynhyrchwyr ffilm nad ydynt eisiau defnyddio criw ffilmio. Mae’r gwasanaeth hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, yn benodol yng nghyswllt cyflwr, maint, hawliau perchnogaeth a chyfraith hawlfraint.

Mae rhyddhau delweddau a rhoi caniatâd yn dibynnu ar arwyddo contract a / neu dalu yn llawn.

Fel mater o gwrteisi, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i'r gwasanaeth cyn darlledu am y tro cyntaf unrhyw raglen lle mae un neu ragor o'n delweddau yn cael eu cynnwys. Mae hyn er mwyn gallu rhybuddio staff y Llyfrgell ac Archifau am ddiddordeb cyhoeddus posibl yn ein deunydd.

Ni fyddwn fel arfer yn gwrthod caniatâd i gyhoeddi ein delweddau, oni bai ein bod yn credu y byddai eu cyhoeddi yn mynd yn groes i gyfraith y DU, yn mynd yn groes i delerau unrhyw gytundeb yr ydym yn dal y deunydd drwyddo, neu os byddwn yn credu y gallai eu cyhoeddi achosi niwed i enw da Prifysgol Bangor.

Rydym yn cadw’r hawl i godi ffi gyhoeddi (yn ychwanegol at ffi ffilmio) yn achos cyhoeddiadau masnachol. Byddai unrhyw ffi gyhoeddi yn cael ei chodi ar wahân i'n ffi ffilmio a'n prisiau copïo (sganio).

Ffioedd ffilmio

Y raddfa ffilmio ddyddiol yw £300 y dydd neu £50 yr awr. Mae'r pris hwn yn cynnwys defnyddio deunydd y Llyfrgell ac Archifau a phresenoldeb aelod o staff y mae'n rhaid iddo/iddi fod ar y safle am resymau diogelwch a chadwraeth.
[Nid yw'r pris hwn yn cynnwys gwaith ymchwil a wneir gan staff y Llyfrgell ac Archifau i baratoi ar gyfer y ffilmio – cost hyn fel arfer yw £15 am bob hanner awr.]

Y ffi ddyddiol ar gyfer defnyddio Darllenfa Shankland (y tu allan i'r tymor) fel lleoliad heb ddefnyddio casgliadau'r Llyfrgell yw £150.

Ffioedd cyhoeddi lluniau llonydd

£20 y llun ar gyfer un darllediad neu gyhoeddiad Cymreig / Rhanbarthol

£50 y llun am ddarllediad safonol / gwasanaeth cyhoeddus / rhwydwaith y DU

£75 y llun am ddarllediad digyfwng / darllediad 15 mlynedd yn analog ac yn ddigidol yn cynnwys ffrydio ar y we a'u defnyddio ar DVD

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?