Ymweliadau grŵp
Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn croesau ymweliadau gan grŵpiau bychain o unigolion ar gyfer sesiynnau cyflwyno. Mae’r sesiynnau hyn yn cynnwys :
- trosolwg o’r casgliadau archifol sydd yng ngofal y Brifysgol
- disgrifiad o waith yr archifdy
- eglurhad o’r amryw ffyrdd o chwilota am ddeunydd
- arddangosfa fach o ddeunydd gwreiddiol sy’n adlewyrchu ehangder y casgliadau
- sesiwn cwestiwn ac ateb
Mae’r ymweliadau grŵp fel arfer yn para 1.5 awr a mae’r ystafell addysg yn addas ar gyfer grŵpiau o hyd at 15 o bobl.
Am ragor o wybodaeth neu i neilltuo lle ar gyfer eich grŵp chi, cysylltwch â ni ar (01248)383276 neu ar ebost archifau@bangor.ac.uk