YMWELD Â’R ARCHIFDY
Rhai gwneud apwyntiad i ymweld â’r Archifau a Chasgliadau Arbennig. Mae modd gwneud hyn drwy gysylltu â ni ar archifau@bangor.ac.uk neu 01248 383276.
Dydd Llun – Dydd Gwener
9.30-12.00 (bore) 1.30-4.00 (pnawn)
Os oes modd, gofynnwn yn garedig i chi egluro beth yw eich gofynion ac i archebu dogfennau a llyfrau prin o flaen llaw.
Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig ynglŷn â chael mynediad gadewch i ni wybod cyn eich ymweliad.
Os nad oes gennych Gerdyn Archif eisoes, argraffwch a llenwch y 'Ffurflen Gofrestru Defnyddiwr' cyn eich ymweliad a dewch â hi gyda chi ynghyd â 2 fath o ddogfen adnabod.
Mae'n bosib y bydd darllenwyr yn ystod y misoedd nesaf yn cael eu haflonyddu o ganlyniad i waith adeiladu y tu allan i'r Archifdy.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Yr ystafelloedd darllen
Ceir mynediad i’r Archifdy drwy gerdded i mewn i'r cyntedd a chanu’r gloch ar y drws mewnol. Daw aelod o staff yr Archifau a Chasgliadau Arbennig i’ch cyfarfod.
Bydd dwy ystafell ddarllen ar gael i ddarllenwyr yn yr Archifdy. Er mwyn sicrhau bod yr ystafelloedd wedi’u hawyru'n dda bydd y ffenestri ar agor a pheiriant puro’r aer yn cael ei ddefnyddio felly cofiwch wisgo dillad cynnes.
Unwaith y byddwch yn yr ystafell, rhoddir sedd benodol i chi. Ni fydd rhaid i chi wisgo menyg.
Cyfleusterau
Mae toiledau cyhoeddus ar gael gyda chyfleusterau golchi dwylo ar y lloriau 1af ac 2il uwchben yr Archifdy ac yn y Prif Lyfrgell. Darperir hylif diheintio dwylo hefyd mewn amrywiol leoliadau.