Lleoliad
Mae dinas Bangor yn sefyll rhwng Afon Menai a Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae Archifau'r Brifysgol wedi ei lleoli ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Teithio i Fangor
Mae cyfarwyddiadau teithio a mapiau'r campws ayb ar gael ar ein tudalennau ar gyfer ymwelwyr ar brif wefan Prifysgol Bangor.
Hefyd, cewch wylio fidios, edrych ar luniau a chael rhithdeithiau ar ein gwefan Fideos, teithiau a lluniau er mwyn cael blas ar fywyd ym Mangor.
Cliciwch yma am fap o Fangor i'w lwytho i lawr (PDF).
Cludiant cyhoeddus
Gellwch deithio i Fangor ar y trên neu ar y bws. I dderbyn manylion am deithio ar y trên edrychwch ar UK Railways on the Net , ac am deithio ar y bws edrychwch ar Arriva. Dim ond 10 munud o waith cerdded sydd o’r orsaf reilffordd i’r Archifdy.
Teithio yn y car
Mae parcio’n gallu bod yn broblem pan fyddwch yn ymweld â’r Archifdy. Mae’n bosib y gallech gael lle ar ochr y ffordd ym Mangor Uchaf. Fel arall, bydd digon o lefydd parcio ym Mangor Isaf sydd 10 munud o waith cerdded oddi yno.