Gwirfoddoli
Mae'r Archifau a'r Casgliadau Arbennig wedi elwa'n fawr o waith myfyrwyr a disgyblion ar brofiad gwaith ar hyd y blynyddoedd ac yn 2014 lansiwyd ein cynllun gwirfoddoli.
Mae'r cynllun wedi bod yn hynod lwyddiannus ac wedi denu myfyrwyr Prifysgol Bangor ynghyd ag aelodau o'r gymdeithas i wirfoddoli ac ennill profiadau gwerthfawr.
Rydym yn dymuno cefnogi ac annog gwirfoddolwyr ac yn gobeithio rhoi iddynt brofiad gwerthfawr a phleserus.
Am ragor o wybodaeth am ein cynllun, gweler ein Polisi Gwirfoddoli neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, llenwch y Ffurflen Ymholiad a'i dychwelyd atom ar ebost, drwy'r post neu ddod â hi i'r swyddfa.
Pob lwc i Claudia
Diolch mawr i’n gwirfoddolwr Claudia Williams am weithio cyfanswm sylweddol o 210 o oriau yn gweithio yn yr Archifdy yn ystod y deunaw mis olaf (2016-2017). Dymunwn y gorau iddi yn ei hastudiaethau ôl-radd mewn Astudiaethau Archifol a Chofnodion Modern ym Mhrifysgol Lerpwl. Bydd colled mawr ar ei hol!
Ffarwelio â rhai gwirfoddolwyr
Hoffai’r Archifau ar Casgliadau Arbennig ddiolch o galon i’n holl wirfoddolwyr a dderbyniodd dystysgrifau ym Mehefin 2015 am eu gwaith caled. Maent wedi cael profiad amrywiol o waith mewn Archifdy : creu rhestri bras, catalogio, mewnbwnio ystadegau ar gyfrifiadur a chreu ffolderi di-asid ar gyfer llawysgrifau ymysg pethau eraill. Llwyddodd y criw i weithio cyfanswm o 422 o oriau yn yr Archifdy. Tipyn o gamp!
Sheldon, Emily a Viveka : y graddedigion â fu’n gwirfoddoli
yn 2014-2015 gyda’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig.