Blog Ymchwil: Ionawr 2022
Diwedd ‘Groundhog Day’ - beth ddylai busnesau ei wneud nesaf?
Mae’r comedi ‘Groundhog Day’ 1993, gyda’r actor Bill Murray, yn adrodd hanes dyn sydd wedi ei ddal mewn dolen amser. Mae wedi ei dynghedu i ailadrodd yr un diwrnod drosodd a throsodd nes iddo ei wneud yn iawn. Diolch byth, nid ydym ni mewn dolen amser gyfriniol - ond mae'r pandemig Covid-19 wedi cael yr effaith o wneud iddo deimlo fel petai amser wedi aros yn ei unfan.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2022