Cyfarfod â'r criw
- Cwestiynau cyflym gyda gweddill y tîm.
Calendr Campws Byw
- Llawrlwytho Calendr Campws Byw.
Criw Campws Byw - Abbie
Hei bawb, fy enw i yw Abbie. Rwy'n fyfyriwr Athroniaeth a Chrefydd yn yr 2il flwyddyn o Fanceinion yn wreiddiol.
Rwy'n gydlynydd Campws Byw, ac rwyf hefyd yn Gadeirydd y Tîm Uni Boob sy'n ymroddedig i ymwybyddiaeth canser y fron. O'r herwydd, mi welwch chi gryn dipyn arna' i o gwmpas y campws yng ngweithgareddau Campws Byw, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y fron ac yn codi arian.
Mae Campws Byw yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a chymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Byddwch yn derbyn e-byst bob dydd Llun oddi wrthym i'ch diweddaru am bopeth yr ydym yn ei gynnal yr wythnos honno.
Alla' i ddim aros i gwrdd â phawb! Fel rheol byddaf ym Mar Uno neu yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae croeso i chi ddweud helo a chael sgwrs gyda mi.